The Littlest Yak

See dates and times  

Stori afieithus, gynnes i bawb.

Bydd yr addasiad cerddorol yma o'r llyfr llwyddiannus i blant gan Lu Fraser a Kate Hindley yn swyno cynulleidfaoedd hen ac ifanc gyda phypedau hardd, alawon bachog a stori ddyrchafol am hunan-dderbyn i'r teulu cyfan.

Mae Gertie yn wych am fod yr IAC LLEIAF, gyda'r gwlân MWYAF CYRLIOG A THROELLOG a'r carnau CADARNAF ar gyfer dringo’r clogwyni. Ond, dydi Gertie ddim eisiau bod y lleiaf. Mae hi ar frys i dyfu i fyny a bod yn union fel YR IACOD MAWR. Ond beth os oes rhai pethau sydd ond yn gallu cael eu gwneud gan GERTIE?

Stori hyfryd yn dathlu CHI yn bod yn berffaith… yn union fel rydych chi!

Mae LAStheatre yn cyflwyno The Littlest Yak ar y llwyfan mewn sioe drawiadol. Ymunwch â nhw am antur ddisglair, i galon yr Himalayas.

Wedi'i henwebu am 4 Gwobr OffWestEnd IACTASTIG!


Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?

Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!

Cliciwch Yma
!