Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd
A high-energy treatSunday Times
Children's theatre doesn't come much better than thisThe Stage
A perfect introduction to the theatreSunday Express
Iggety ziggety zaggety zoom!
Neidiwch ar gefn yr ysgub gyda’r wrach a’i chath yn addasiad llawn hwyl Tall Stories o Room on the Broom, y llyfr lluniau poblogaidd gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler.
Mae’r wrach a’i chath yn teithio ar eu hysgub ac yn codi ambell un sydd angen lifft – ci cyfeillgar, aderyn gwyrdd hardd a broga byrbwyll. Ond does dim lle i bump ar yr ysgub a – CRAC – mae’n torri yn ei hanner... fel mae’r ddraig lwglyd yn ymddangos!
A fydd digon o le byth ar yr ysgub i’r wrach a’i phedwar teithiwr? Dewch i weld yn y sioe hudolus yma ar gyfer cynulleidfaoedd 3 oed a hŷn sydd wedi’i henwebu am Wobr Olivier. Gan Tall Stories, crëwyr theatr adrodd straeon llawn dychymyg, lle mae popeth yn bosibl.
Cynhyrchiad gan Tall Stories
Room on the Broom
Yn seiliedig ar y llyfr gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!



