Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd
Byddwch yn barod i droi'r sain i fyny ar y fferm yn yr antur gerddorol a chwareus yma ar gyfer cynulleidfaoedd o blant ifanc a'u teuluoedd.
Pan mae Young MacDonald yn cael ei adael yng ngofal fferm ei dad tra mae ar wyliau, mae'n hyderus y bydd yn gallu ymdopi. Wedi'r cyfan, pa mor anodd ydi edrych ar ôl anifail neu ddau? Eithaf anodd, fel mae’n digwydd.
Wrth i bethau droi'n anhrefn hwyliog, mae’r gynulleidfa’n cael gwahoddiad i helpu Young MacDonald i wneud synnwyr o synau, rhythmau ac arferion bywyd y fferm. Gyda cherddoriaeth fyw sy'n cynnwys elfen electronig feiddgar, sain cyfranogol, caneuon gwreiddiol bachog, hiwmor ysgafn a llawer o ryngweithio gan y gynulleidfa, mae'r sioe’n creu byd llawen lle mae cerddoriaeth, chwarae a dychymyg yn dod at ei gilydd.
Wedi'i gynllunio fel cyflwyniad perffaith i theatr a cherddoriaeth fyw, mae Young MacDonald Wants a Farm yn swyno plant bach iawn a hefyd yn diddanu'r oedolion. Y ffordd orau o ddisgrifio’r sioe yma ydi fel cyfuniad o gig, sioe gêm a sioe theatr – yn ogystal â gwallgofrwydd llawen. Mae'n brofiad bywiog, cynhwysol sy'n dathlu chwilfrydedd, creadigrwydd a'r sŵn rhyfeddol pan nad ydi pethau'n gweithio’n union fel y dylen nhw.

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!







