An Audience With Mick Miller

See dates and times  

Mae Mick Miller yn un o gewri’r byd comedi sydd wedi bod ar dop ei gêm ers dros 40 mlynedd!

Mae mor brysur ag erioed nawr yn ei waith, byth yn stopio! Ei gyflwyno difynegiant a'i steil gwallt unigryw ydi beth mae pobl yn ei gofio, ond mae'n gweithio'n gyson ar ei act ac mae'n ychwanegu jôcs a straeon newydd yn rheolaidd i'w chadw'n ffres. Dydi o ddim yn gallu gadael lleoliad heb berfformio rhan allweddol o’i set, gyda Noddy’n ganolbwynt. ’Fyddai'r gynulleidfa ddim yn gadael iddo!

Yn y sioe yma, mae Mick yn perfformio set gomedi lawn yn yr hanner cyntaf ac yn yr ail hanner mae'n cael ei gyfweld gan y comedïwr a'i ffrind agos, Ryan Gleeson. Mae'r cyfweliad yn ddoniol iawn ac yn llawn gwybodaeth, a byth yr un fath ddwywaith. Mae Ryan bob amser yn ceisio darganfod pethau newydd ac mae Mick yn dal ati i geisio gwneud i Ryan chwerthin.

Mae'r sioe yma’n hanfodol i bobl sy’n hoff o gomedi.


Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?

Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!

Cliciwch Yma
!