An absolute blastThe Reviews Hub
Comically tight with relentless pace and quick deliveryEd Fest Mag
“Modern observational storytelling at its best”One The Mic
Mae Harry Stachini yn dychwelyd gyda'i sioe newydd sbon, Lobster.
Nawr, ar ôl sioe arall a werthodd bob tocyn yn y Fringe yn 2025, mae Harry yn barod i ddiosg ei gragen eto. Oherwydd dyma gynnwys Lobster - newid. Mae cimychiaid yn tyfu drwy dorri allan o'u cregyn caled, gan guddio tra mae un newydd yn ffurfio. Mae'n fregus, yn anghyfforddus, yn dipyn o lanast ... ac yn gwbl anochel. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Harry a'i deulu wedi gorfod newid cregyn fwy nag unwaith. O symud i god post "llawn addewid", i deithio'r byd, syrthio mewn cariad, rhannu tŷ gyda’i dad ei hun, ac ymdopi â bod yn yr arddegau yn 2025, mae Lobster yn plymio i’r holl drawsnewid anochel sydd mewn bywyd gyda gonestrwydd, calon, a chwerthin di-baid.

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!


