SIOE UN DYN SY’N CYFLWYNO HUD AC ANHREFN CAWR O’R BYD COMEDI
Sioe un dyn hudolus yn dathlu un o ddiddanwyr gorau Prydain – just like that!.
Wedi’i chyfarwyddo gan Daniel Taylor, mae’r sioe yma sydd wedi ennill gwobrau’n addo cludo cynulleidfaoedd i fyd o hiraeth, hud a chwerthin.
Wedi’i hyrwyddo fel un o’r deg atyniad gorau yng Ngŵyl Glastonbury 2023, mae Daniel Taylor Productions yn cyflwyno The Very Best of Tommy Cooper.
Dros 30 mlynedd ers marwolaeth annhymig y comedïwr, ysgrifennwyd a chynhyrchwyd y sioe eithriadol ddoniol yma gan Daniel Taylor, a gymerodd ran yn ddiweddar yn Unbreakable ar BBC1 yn ogystal â sawl rôl arobryn yn Something About George, Lennon Through a Glass Onion a Blood Brothers.
Mae seren nodedig y West End, Danny, yn camu i esgidiau enfawr Tommy ac yn eithriadol lwyddiannus wrth ddod â’r athrylith comig yma’n ôl yn fyw – gan ail-greu ei anhrefn nodweddiadol a’i driciau aflwyddiannus i unrhyw un gollodd y gwreiddiol neu’r rhai gafodd eu gadael eisiau mwy.
Gyda bendith merch y dyn mawr ei hun, Vicky, mae'r sioe yn cyflwyno'r gorau o jôcs un lein hyfryd Cooper, ei chwarae ar eiriau disglair a’i driciau enwog, gan gynnwys Glass/Bottle, Dappy Duck, Spot the Dog a Jar/Spoon.

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!

