🔐 Sicrhewch fynediad cynnar i'n sioeau mwyaf poblogaidd!
Mae Aelodaeth Cyfeillion yn rhoi blaenoriaeth i chi archebu - ymunwch nawr a sicrhewch eich sedd.
Tocynnau i aelodau ar werth 16 Mehefin
Tocynnau i’r cyhoedd ar werth 23 Mehefin
Charming, charismatic, hilarious. Will have you leaving with a smile on your faceDeadline News
Seren Live At The Apollo, Have I Got News For You, QI, Richard Osman's House of Games a Comedy Central Live, mae Ignacio Lopez yn ei ôl gyda'i brosiect mwyaf uchelgeisiol ac ymhonnus eto efallai.
Nada ydi'r arbrawf comedi cyfareddol lle mae Spain’s Best Export yn creu sioe stand-yp newydd sbon, gwbl unigryw ac eithriadol ddoniol o flaen eich llygaid chi, o ddim byd o gwbl!
Gan ddefnyddio ei fagwraeth ryfeddol o ddoniol, yn tyfu i fyny ym Mallorca a De Cymru, yn ogystal ag awgrymiadau gan y gynulleidfa, a phopeth mae wedi'i ddysgu wrth berfformio comedi ers 2010, mae Ignacio yn creu stori gymhleth o ddirgelwch a chyffro yn llawn coegni, ffolineb a llond bol o chwerthin.
Yn ogystal â syfrdanu’r gwylwyr gyda'i ffraethineb cyflym a'i garisma ar bob gorsaf deledu yn y DU bron, mae talentau Ignacio wedi sicrhau cyfle iddo serennu yn y clybiau comedi gorau, ar fordeithiau, mewn sioeau corfforaethol a milwrol ledled y byd ac mae sioeau ei daith wych ledled y DU, sydd wedi gwerthu pob tocyn, yn profi ei fod yn berfformiwr na ddylech chi ei golli.
A crowd-pleasing act for sure. This observational comic has struck a more compelling pathThe List

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!