Cwestiynau Cyffredin

Pa mor gynnar y mae angen i mi archebu?
Byddem yn argymell 4 i 12 mis ymlaen llaw - efallai y bydd angen amser arweiniol hirach ar gyfer digwyddiadau mwy (weithiau mae gennym argaeledd munud olaf).
A fydd arnoch chi angen blaendal?
Byddwn yn gofyn am flaendal nad oes posib ei ad-dalu ar gyfer pob archeb - bydd y swm yn gymesur â’ch archeb gyfan.
Oes posib i mi weld y gofod?
Oes, wrth gwrs. Cysylltwch â ni a byddwn yn gallu trefnu ymweliad wyneb yn wyneb.
Ydych chi’n cynnig adloniant corfforaethol?
Ydym, gallwn gynnal derbyniadau diodydd, profiad bwyd pwrpasol a thocynnau ar gyfer digwyddiadau.
Gall arwain at gostau ychwanegol
Oes ffordd o weithio ar y cyd mewn partneriaeth â’r theatr?
Mae gennym ni gynllun aelodaeth corfforaethol gydag ystod o fuddion sy’n ddelfrydol ar gyfer busnesau bach a chanolig a chorfforaethau mawr fel ei gilydd.
Ydych chi’n cynnig llogi lleoliadau heb fod yn gorfforaethol?
Ydym - popeth o briodasau ac angladdau i bartïon pen-blwydd a digwyddiadau dinesig. Os gallwch chi feddwl amdano, mae’n bur debyg y byddwn ni’n gallu ei ddarparu.