Rydym yn gweithio'n helaeth gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion lleol, gan gyflwyno prosiectau cyffrous ac arloesol i gynorthwyo dysgu.

Consent

Mae Consent yn weithdy rhyngweithiol ar gyfer disgyblion blwyddyn 9 sy’n delio â materion yn ymwneud â chydsyniad rhywiol, gan gynnwys cymryd a rhannu delweddau rhywiol ar ffonau. Mae’r prosiect yn cael ei gyflwyno ar y cyd â Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint gyda gweithwyr ieuenctid yn bresennol yn y gweithdai i gefnogi trafodaeth rhwng y golygfeydd.

Gallwch weld yr hysbyseb yma -

https://www.youtube.com/watch?v=hs33I_Ea8fc

Junior Justice

Wedi’i anelu at ddisgyblion mewn ysgolion cynradd, mae’r gweithdy rhyngweithiol hwn yn dilyn siwrnai person ifanc drwy’r system gyfreithiol, o gyflawni trosedd, i arestio, sefyll ei brawf a dedfrydu.

Mae’r cyfranogwyr yn dysgu sut mae'r system gyfiawnder yn gweithio, yn edrych ar y materion sy’n codi mewn amgylchedd diogel ac, yn y pen draw, byddant yn penderfynu tynged ein troseddwr ifanc.

Ar y siwrnai, byddant yn gallu edrych yn fanwl ar amgylchiadau'r drosedd, trafod hawliau a chamweddau ei ymddygiad, edrych ar feddwl am ganlyniadau, yn ogystal â dychwelyd eu dedfryd eu hunain am yr hyn ddylai ddigwydd i'r sawl a gyhuddir.

Mae’r rhaglen waith yn cael ei chreu ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned (PACT) Heddlu Gogledd Cymru, a’r gweithdai ac yn cael ei chefnogi gan Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol.

Justice In A Day

Gan weithio gyda’n partneriaeth gyda PACT (Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Heddlu Gogledd Cymru), Heddlu Gogledd Cymru, Llysoedd EM, Ynadon a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, mae Justice in a Day yn weithdy sy’n cynnig cyfle i ddisgyblion blwyddyn 8/9 sicrhau mwy o ddealltwriaeth am weithredu’r System Cyfiawnder Troseddol.

Mae’r gweithdy yn annog pobl ifanc i edrych ar eu dewisiadau, meddwl am ganlyniadau, a sut i osgoi ymwneud â’r System Cyfiawnder Troseddol drwy ganolbwyntio ar yr effaith y gall gweithred droseddol ei chael ar droseddwr, dioddefwr, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach.

Bright Sparks

Wedi’i greu mewn partneriaeth â Phartneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Mae Bright Sparks yn codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd mewn pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ymhlith plant yn ysgolion cynradd Gogledd Cymru.