News Story
O'r llwyfan i gobls enwog Coronation Street, mae'r actores Wendi Peters yn chwarae rhan Florence Jenkins Foster ar daith Glorious! ledled y DU.
Mae Wendi yn sgwrsio am Glorious!, a dychweliad posibl i Corrie, cyn iddi ddod i Theatr Clwyd (26-30 May).

Allwch chi ganu mewn tiwn?
Gallaf, felly mae wedi bod yn dipyn o her i ganu allan o diwn. Mae Florence yn canu pedair cรขn fawr yn y ddrama gan gynnwys Queen of the Night Mozart o The Magic Flute. Fe wnes i ddechrau drwy ddysgu'r nodau yn berffaith.
Ydych chi'n meddwl bod Florence yn gwybod pa mor anobeithiol oedd hi fel cantores?
Tybed. Rydw i'n meddwl ei fod o wedi croesi ei meddwl hi weithiau bod cynulleidfaoedd yn chwerthin ar ei phen hi yn hytrach na gyda hi a byddai rheswm dros hynny.
Mae hynny'n anochel yn cyfrannu rhywfaint o ddwyster at y digwyddโฆ
Yn bendant โ ac yn enwedig yn ail hanner y ddrama.Ar y llaw arall, fe gafodd hi ei dymuniad i berfformio i 3000 o bobl yn Neuadd Carnegie ac oni bai bod y cyngerdd wedi gwerthu pob tocyn fe fyddai hi wedi bod yn fethdalwr. Felly, roedd gan y ddynes chutzpah.
Ond beth bynnag oedd hiโn ei wneud yn anghywir, fe allai hi weld ei bod hi'n cael ei charu, gweld ei bod hi'n diddanu cynulleidfaoedd. Cofiwch, mae'n adlewyrchiad cywilyddus oโr natur ddynol bod pobl yn cael pleser o wylio rhywun yn gwneud rhywbeth yn wael. Ond wedyn, meddyliwch am y clyweliadau cynnar ar X Factor.

Rydych chi'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Cilla Battersby yn Corrie. Sut newidiodd hynny eich bywyd chi?
Roeddwn i wedi bod yn gweithio am 10 mlynedd pan gefais i rรดl Cilla ond does dim dwywaith ei bod hi wedi agor llawer o ddrysau i mi. Rydw i'n ddiolchgar iddi er, o fewn wythnos i ymddangos ar Corrie, roeddwn i'n cael fy stopio ar y stryd. Dydych chi ddim yn sylweddoli pลตer opera sebon nes i chi ymddangos mewn un fel cymeriad rheolaidd.
Oeddech chi'n hoffi Cilla?
I ddechrau, roedd hi'n ddireidus ac yn hwyl, ond fe drawsnewidiodd hiโn gyflym i fod yn dipyn o fwystfil. Mae bob amser yn fwy o hwyl chwarae cymeriad drwg.Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un ar y cobls yn ei hoffi hi, ond roeddwn i wrth fy modd yn ei chwarae hi. Er, โfyddwn i ddim eisiau byw drws nesaf iddi. Fe fyddai hi'n gymdoges hunllefus.
Pa rai oedd eich hoff straeon chi?
Wythnosau yn unig ar รดl i mi ymuno รข'r cast, fe gefais i ffrae gyda Rita Sullivan a oedd wedi taro fy mab i, Chesney, am ddwyn o'i siop. Fe wnes iโn siลตr bod Rita yn y carchar dros nos ac mi wnes i fynnu iawndal.Dim ond ers pum munud oeddwn i yno ac roeddwn i'n sefyll ar y stryd yn gweiddi ar Rita โ Y Fonesig Barbara Knox, fel roedden niโn ei galw hi โ ac yn gorfod pinsio fy hun bron!
Dim ond merch o Swydd Gaerhirfryn oeddwn i oedd yn arfer gwylio Corrie bob nos Wener gyda'i nain a dyma fi wedyn yn eistedd ar wal gardd Gail Platt. Swreal!
Fyddech chiโn dychwelyd ar y cobls byth?
Mae pobl bob amser yn gofyn hynny ac rydw i bob amser yn ateb yn yr un ffordd: paid byth รข dweud byth. Pe baen nhwโn dod o hyd i stori i mi na fyddai posib ei gwrthod, efallai y byddwn i'n cael fy nhemtio. Wedi dweud hynny, rydw i'n rhy brysur ar hyn o bryd. Mae fy mhen iโn llawn o Florence.


