Ffefryn panto Theatr Clwyd, Phylip Harries, yn troi at Shakespeare ym mis Ebrill eleni.
See dates and times 10 Ebr 2026
News Story

Mae Phylip Harries, dêm panto enwog Theatr Clwyd, yn eithaf cyfarwydd â chomedi ar ôl ei 19 mlynedd yn arwain sioe Nadolig flynyddol y theatr yn Sir y Fflint.
Ym mis Ebrill eleni, fodd bynnag, mae'n ymgymryd â rôl newydd fel yr eiconig Malvolio yng nghynhyrchiad newydd Theatr Clwyd o Twelfth Night.
“Rydw i wedi bod yn ffodus iawn o fod wedi perfformio mewn ambell un o ddramâu Shakespeare” meddai Harries i ddechrau, “fe wnes i chwarae Bottom yn A Midsummer Night’s Dream a Dogberry yn Much Ado About Nothing.”
Ond i Harries, mae rôl Malvolio yn freuddwyd. “Mae’n un o rannau comig mawr Shakespeare”, meddai.
Mae Twelfth Night yn stori am efeilliaid sy’n rhan o longddrylliad, camgymryd pwy ydyn nhw, trionglau serch, a thwyll comig. Y cynhyrchiad newydd yma, dan gyfarwyddyd y cyfarwyddwr o Gymru, Juliette Manon, yw’r Shakespeare cyntaf i gael ei gynhyrchu gan Theatr Clwyd ers yr adnewyddu mawr ar yr adeilad. Wedi’i adleoli i westy sydd wedi colli’i sglein o’r 1970au yng Ngogledd Cymru, mae’n addo bod yn fawr, yn feiddgar, yn swnllyd ac yn falch, gyda chariad, yn anad dim, wrth galon y cynhyrchiad.
Ond er bod llawer o gynulleidfaoedd wedi syrthio mewn cariad â Shakespeare, mae eraill yn ystyried ei waith yn anodd. Fodd bynnag, mae Harries yn disgrifio Twelfth Night fel drama sydd ddim yn annhebyg i’r pantomeim, gyda “chyfranogiad y gynulleidfa, cerddoriaeth, clownio a chymeriadau stoc, mawreddog, mae’r cyfan yn nramâu Shakespeare hefyd”.
Yn greiddiol i Twelfth Night mae Malvolio, sy'n enwog am fod yn annymunol ac yn biwritanaidd, yn ddifrifol iawn ac, i'r gynulleidfa, yn ddoniol iawn ar yr un pryd. Mae Harries yn adnabod y paradocs. “Y tric er mwyn gwneud i gymeriad Malvolio weithio” meddai “yw sicrhau’r cydbwysedd priodol rhwng ei rodres a'i naïfrwydd - dim ond os yw'n ymddangos yn ddifrifol ar y dechrau y gall y gomedi weithio”.
Wrth iddo ddychwelyd i'r ystafell ymarfer, rydyn ni’n gofyn iddo sut mae'n mynd ati i weithio ar rôl fel Malvolio, ac mae'n gwenu wrth ateb “boed yn Shakespeare neu'n bantomeim, mae bob amser yn ymwneud â dod o hyd i'r gwir yn y rôl a byw yn y byd hwnnw'n llawn.”
Mae Twelfth Night yn rhedeg yn Theatr Clwyd o nos Sadwrn 25 Ebrill tan nos Sadwrn 16 Mai. Mae tocynnau ar gael o theatrclwyd.com



