News Story

Mae Stiwdio Clwyd, Stiwdio Datblygu Artistiaid Genedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi'r criw cyntaf o artistiaid ar gyfer Sparks, rhaglen flaenllaw sydd wedi’i chynllunio i gefnogi crëwyr theatr drwy ddatblygiad pwrpasol sy’n cael ei chyllido gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Wedi'i datblygu mewn ymateb i sgyrsiau gyda channoedd o weithwyr llawrydd creadigol ledled Cymru, mae rhaglen Sparks yn dod â phymtheg o grëwyr theatr o Gymru ac wedi’u lleoli yng Nghymru sy'n gweithio yn y Gymraeg ac yn Saesneg at ei gilydd. Mae'r rhaglen yn cefnogi artistiaid i gwestiynu eu harfer presennol, gan ddarparu amser, adnoddau a mentora i greu newid sylweddol ac adeiladu gyrfaoedd creadigol mwy cynaliadwy.
Mae Sparks yn cael ei chyflwyno drwy dair elfen benodol. Mae Sparks Open yn cynnig mentora i gyfranogwyr ochr yn ochr â chyfnod preswyl yn Theatr Clwyd. Mae Sparks Mini yn darparu rhaglen fentora chwe mis gyda thâl ar gyfer artistiaid sy'n chwilio am gefnogaeth datblygu ffocws. Cyflwynir Sparks Partnership mewn cydweithrediad â chwe sefydliad celfyddydol yng Nghymru: Frân Wen, Theatr Cymru, RCTC, Loyalty Arts, Jhoom, ac Opera Cenedlaethol Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r elfennau hyn yn adeiladu seilwaith deinamig, hirdymor i effeithio ar ddyfodol creu theatr yng Nghymru.
Mae'r criw sydd newydd gael ei gyhoeddi’n cynnwys cyswllt Complicité Catherine Alexander, cynllunydd goleuo Katy Morrison, cydsylfaenydd a chyfansoddwr Gagglebabble, Lucy Rivers, bardd perfformio arobryn Tia Camilleri, crëwr theatr celfyddydau cymunedol Felicity Goodman, yr artist rhyngddisgyblaethol a'r ymgyrchydd hawliau anabledd Jeremy Linnell, yr artist amlddisgyblaethol Gwen Thomson, ymarferwyr symudiad Anthony Matsena, Jodi Ann Nicholson a David Bolitho, y cynllunydd Lois Prys, y bardd dwyieithog Clare Potter, a'r awdur-berfformwyr Leo Drayton, Nia Gandhi a Teleri Hughes. Mae'r mentoriaid yn cynnwys y dramodwyr arobryn Chris Bush a Kaite O'Reilly, y cyfarwyddwyr clodwiw Blanche McIntyre, Jude Christian a Steffan Donnelly, a'r cynllunydd goleuo blaenllaw yn y diwydiant Bruno Poet.
Dywedodd Suzanne Bell, Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd: "Fe ddywedodd artistiaid ledled Cymru wrthyn ni beth oedd arnyn nhw ei angen: amser a lle i ddatblygu heb y pwysau i gynhyrchu. Rydyn ni’n falch bod y criw cyntaf yma’n cynrychioli ehangder ac uchelgais creu theatr yng Nghymru, gan weithio ochr yn ochr â chynifer o sefydliadau hanfodol a mentoriaid eithriadol."
Mae’r rhaglen yn cael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.


