Skip to main content

Ein Dyfodol

I ddarganfod mwy am ein cynlluniau ail ddatblygu

LogoCreated with Sketch.

Theatr Clwyd

  • Digwyddiadau
  • Cymryd Rhan
  • Mewngofnodi
  • Account
  • Basged
  • Chwilio
  • English
LogoCreated with Sketch.

Theatr Clwyd

Search
  • Account
  • Basged
  • Chwilio
  • Digwyddiadau
  • Cymryd Rhan
  • Bwyta ac Yfed
  • Ymweld
  • Cefnogi ni

More Site Pages.

  • Aelodaeth Cyfeillion
  • Neuadd William Aston
  • Gwersi Cerddoriaeth
  • Amgylchedd
  • Mynediad
  • Swyddi
  • English
Return to main

Play On

Newyddion

See dates and times   15 Meh 2022

News Story

Mae Am Ddrama / Play On yn gynllun ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd a National Theatre Wales i ddod o hyd i sgriptiau a dramâu newydd a chyffrous gan ddramodwyr sydd wedi eu lleoli yng Nghymru.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd Am Ddrama yn galluogi dramodwyr i anfon eu sgriptiau a’u dramâu anghyhoeddedig yn ddienw at banel eiddgar o ddarllenwyr i gael adborth gwerthfawr. Mae’n bosibl y bydd cyfle i’r sgriptiau mwyaf addawol gael eu datblygu, gan baru’r sgript a’r dramodydd gydag un o’r tri sefydliad sy’n fwyaf addas i’w datblygu, ei chomisiynu a’i chynhyrchu.

Yn ystod y broses, bydd y dramodwyr yn cael mynediad at banel eiddgar o ddarllenwyr llawrydd a mewnol, a ddewiswyd gan y tri phartner yn dilyn galwadau agored ym mis Awst 2021 a mis Mai 2022. Mae’r cohort cyntaf o ddarll enwyr wedi eu penodi am y 6 mis cyntaf. Maent yn cynnwys Charles O’Rourke, sydd â chefndir mewn gwaith â llaw, cyfieithu llenyddol ac ymgyrchu cwiar, ac sy’n ddarllenydd sgriptiau i Everyman Playhouse, Lerpwl a Channel 4. Lowri Izzard, a hyfforddwyd yn RADA ac sydd newydd orffen gweithio ar ffilm gomedi nodwedd newydd, sef Brian and Charles, ar gyfer Film4 a BFI. Mary Davies, dramatwrg lawrydd, sydd newydd gwblhau ei Doethuriaeth yn Athrofa Shakespeare a’r RSC. Melangell Dolma, dramodydd, actor a Chydlynydd Datblygu Creadigol gyda’r Theatr Genedlaethol, a Yasmin Begum, o dras Cymreig-Pacistanaidd, sy’n ymgyrchydd, awdur ac ymarferydd creadigol. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio yn Gwasg Honno, y wasg annibynnol hynaf i fenywod yn y Deyrnas Gyfunol. Mae Rahim El Habachi, sy’n Gydymaith Creadigol gyda NTW, ac yn ymgyrchydd dros ffoaduriaid a cheiswyr lloches LHDT+, wedi gweithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru a Theatr y Sherman; mae’n berfformiwr ac yn wneuthurwr theatr.

‘Mae’r ddramatwrg Ffion Emlyn yn Gymraes sydd wedi gweithio i’r BBC am dros ugain mlynedd, yn bennaf fel Cynhyrchydd Drama Radio i BBC Radio Cymru. Mae Ffion hefyd wedi gweithio fel Golygydd Sgript a Chynhyrchydd Straeon ar rai o raglenni eraill y BBC, megis Casualty a Pobol y Cwm, ac wedi mwynhau datblygu talentau ysgrifennu newydd dros y blynyddoedd.

Mae Elizabeth Freestone yn gyfarwyddwr theatr, ymgynghorydd creadigol ac amgylcheddwr. Mae wedi cyfarwyddo dramâu ar gyfer y Royal Shakespeare Company, Manchester Royal Exchange, Citizens Theatre Glasgow, y Young Vic a Shakespeare yn y Tobacco Factory, ac eraill. Mae'n gyn Gyfarwyddwr Artistig Pentabus, cwmni teithiol gwaith newydd.

Galwad Darllenwyr: Bydd cyfle i chi fynegu diddordeb rhwng 15fed Mehefin 2022 hyd at 13eg Gorffennaf 2022.

Cyflwyno sgriptiau nad ydynt wedi ei cyflwyno’n flaenorol i un o’r tri sefydliad: Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sgriptiau yn cychwyn 29ain Mehefin 2022 hyd at 10fed Awst 2022.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi anfon ebost at post@amddrama-playon.cymru, neu cysylltwch trwy neges llais neu neges destun ar 07908 439417.

Mwy o Newyddion

Wrecslam! : Cyhoeddi'r Awduron a'r Cast ar gyfer perfformiadau yn Eisteddfod Genedlaethol 2025

11 Mehefin 2025

Arddangosfa Agored Gogledd Cymru 2025

29 Mai 2025

Mae ein Bwrdd Ieuenctid deinamig yn chwilio am aelodau newydd!

16 Mai 2025

Tanysgrifiwch i’n Rhestr Bostio

Mwy o Dudalennau Safle

  • Newyddion
  • Rhestr bostio
  • Swyddi
  • Cysylltwch â ni
  • Mynediad

Manylion Cyswllt

Raikes Lane, Yr Wyddgrug, CH7 1YA
(01352) 344101 box.office@theatrclwyd.com
  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter

Tudalennau Cyfreithiol

  • Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Telerau ac amodau
  • Safeguarding
  • Map o'r Safle
  • Cwmnïau Gwadd ac Artistiaid

Print Mân

© 2025 Theatr Clwyd. Cedwir pob hawl.
Theatr Clwyd Trust Ltd masnachu fel Theatr Clwyd
Elusen wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr.
Rhif y cwmni 12465903 | Rhif elusen 1189857. Website by Supercool
Cyllidwyr
FR fundraiseing badge logoCyngor Celfyddydau Cymruarts-council-walesCreated with Sketch.Cyngor Sir y Fflintflintshire-councilCreated with Sketch.Cyrum Walescyrum-walesCreated with Sketch.Llywodraeth Cymruwelsh-governmentCreated with Sketch.