News Story

Am Ddrama
Galwad Agored Am Sgriptiau Gan Ddramodwyr Yng Nghymru
Mae Am Ddrama yn gynllun ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd a National Theatre Wales i ddod o hyd i sgriptiau a dramรขu newydd a chyffrous gan ddramodwyr sydd wedi eu lleoli yng Nghymru.
Dros y flwyddyn nesaf, bydd Am Ddrama yn galluogi dramodwyr i anfon eu sgriptiau aโu dramรขu anghyhoeddedig yn ddienw at banel eiddgar o ddarllenwyr i gael adborth gwerthfawr. Maeโn bosibl y bydd cyfle iโr sgriptiau mwyaf addawol gael eu datblygu, gan baruโr sgript aโr dramodydd gydag un oโr tri sefydliad syโn fwyaf addas iโw datblygu, ei chomisiynu aโi chynhyrchu.
Mae Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr ArtistigTheatr Genedlaethol Cymru, yn esbonio sut maeโr bartneriaeth hon yn gyfle unigryw i ddramodwyr yng Nghymru:
โDymaโr cynllun cyntaf oโi fath yng Nghymru. Rwyโn hynod falch ein bod yn cydweithio gyda National Theatre Wales a Theatr Clwyd ar arbrawf mor gyffrous. Gobeithiwn y bydd yn gyfle i ni rannuโr neges yn eang ac yn genedlaethol ynghylch y cyfleoedd sydd ar gael iโn dramodwyr gyflwyno eu gwaith yn y ddwy iaith i dri oโn prif gwmnรฏau cynhyrchu theatr, trwy ddull โsiop-un-stopโ. Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn gobeithio y bydd y fenter hon yn caniatรกu i ni glywed gan leisiau amrywiol a dramodwyr newydd o bob oed, waeth beth yw eu profiad blaenorol.โ
Yn ystod y broses, bydd y dramodwyr yn cael mynediad at banel eiddgar o ddarllenwyr llawrydd a mewnol, a ddewiswyd gan y tri phartner yn dilyn galwad agored a wnaed ym mis Awst 2021. Maeโr darllenwyr wedi eu penodi am 6 mis, a bydd cyfle arall i ymgeisio am y rรดl. Am y 6 mis cyntaf, bydd y darllenwyr yn cynnwys Charles OโRourke, sydd รข chefndir mewn gwaith รข llaw, cyfieithu llenyddol ac ymgyrchu cwiar, ac syโn ddarllenydd sgriptiau i Everyman Playhouse, Lerpwl a Channel 4. Lowri Izzard, a hyfforddwyd yn RADA ac sydd newydd orffen gweithio ar ffilm gomedi nodwedd newydd, sef Brian and Charles, ar gyfer Film4 a BFI. Mary Davies, dramatwrg lawrydd, sydd newydd gwblhau ei Doethuriaeth yn Athrofa Shakespeare aโr RSC. Melangell Dolma, dramodydd, actor a Chydlynydd Datblygu Creadigol gydaโr Theatr Genedlaethol, a Yasmin Begum, o dras Cymreig-Pacistanaidd, syโn ymgyrchydd, awdur ac ymarferydd creadigol. Ar hyn o bryd mae hiโn gweithio yn Gwasg Honno, y wasg annibynnol hynaf i fenywod yn y Deyrnas Gyfunol. Mae Rahim El Habachi, syโn Gydymaith Creadigol gyda NTW, ac yn ymgyrchydd dros ffoaduriaid a cheiswyr lloches LHDT+, wedi gweithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru a Theatr y Sherman; maeโn berfformiwr ac yn wneuthurwr theatr.
โMaeโn wych i fod yn cyhoeddiโr rhaglen hon, syโn agor llwybr newydd a hygyrch at gyfoeth, amrywiaeth a thalent anhygoel ym maes ysgrifennu dramรขu yng Nghymru. Mae NTW, ynghyd รขโn partneriaid, yn ymrwymo i agor sgyrsiau creadigol gydag awduron oโr llu o gyd-destunau a diwylliannau syโn creu Cymru gynhwysol a modern. Mae dramodwyr Cymru yn gaffaeliad anhygoel i elfen storรฏol a hunaniaeth esblygol ein cenedl. Maeโn holl bwysig i sicrhau bod lleisiau profiadol a newydd fel ei gilydd yn cael llwybrau tryloyw a hygyrch iโw galluogi i rannu eu syniadau a gweithio gydaโr prif gwmnรฏau cynhyrchu.โ
Lorne Campbell, National Theatre Wales.
Rhan gyffrous arall oโr cynnig ywโr cyfle iโr darllenwyr barhau i ddatblygu sgiliau dramatwrgaidd. Mae Raphael Martin, rheolwr llenyddol a dramatwrg o dras Prydeinig/Americanaidd, yn berchen ar The Lit Shop Ltd, cwmni rheoli llenyddol ar gyfer theatrau syโn dymuno cael rรดl fel hon ar drefniant ymgynghorol. Mae wedi gweithio fel dramatwrg a rheolwr llenyddol mewn nifer o sefydliadau o fri yn cynnwys yr RSC, Sonia Friedman Productions, ATG, The Bush, The Gate Notting Hill, The Royal Court Young Writersโ Programme, The National, Manhattan Theatre Club a Soho Rep. Ar hyn o bryd, mae ei gleientiad yn cynnwys sefydliadau sydd wedi eu lleoli yn y Deyrnas Gyfunol, yr Unol Daleithiau, Canada ac ac Awstralia.
Maeโr ddramatwrg Ffion Emlyn yn Gymraes sydd wedi gweithio iโr BBC am dros ugain mlynedd, yn bennaf fel Cynhyrchydd Drama Radio i BBC Radio Cymru. Mae Ffion hefyd wedi gweithio fel Golygydd Sgript a Chynhyrchydd Straeon ar rai o raglenni eraill y BBC, megis Casualty a Pobol y Cwm, ac wedi mwynhau datblygu talentau ysgrifennu newydd dros y blynyddoedd.
Mae Theatr Clwyd wrth eu bodd o fod yn rhan oโr cynllun: โRydyn ni, fel lleoliad, yn credu bod Am Ddrama yn gam pwysig tuag at sicrhau bod lleisiau newydd, amrywiol a thalentog yn cael eu clywed ar lwyfannau ledled Cymru. Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i weithio gydaโr Theatr Genedlaethol a National Theatre Wales ar y prosiect cyffrous hwn.โ
Tamara Harvey, Theatr Clwyd.
Galwad agored yw hon am sgriptiau sydd eisoes mewn bodolaeth, nad ydynt wedi cael eu cynhyrchu ar unrhyw adeg yn y gorffennol, na chwaith wedi eu cyflwynoโn flaenorol iโr un oโr tri sefydliad partner.
Gall y sgriptiau fod ar gyfer unrhyw grลตp oedran ond rhaid iddynt fod ar gyfer perfformiadau byw, yn cynnwys sioeau cerdd. Gwahoddir unrhyw ddramodydd 18 oed a throsodd i gyflwynoโu gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg, a/neu yn ddwyieithog. Darllenir pob sgript yn ddienw, a nodir y dylai sgriptiau fod yn 20 tudalen neu fwy. Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sgriptiau yn cychwyn 16 Chwefror 2022 hyd at 31 Mawrth 2022. Cyhoeddir gwybodaeth bellach am sut i gyflwyno sgriptiau yn fuan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi anfon ebost at post@amddrama-playon.cymru, neu cysylltwch trwy neges llais neu neges destun ar 07908 439417.