News Story
Mae'r ffenestr ar gyfer fynegi diddordeb bellach wedi cai. Bydd unrhyw gyfleoedd yn y dyfodol yn cael eu hysbysebu yma.
Mae Theatr Clwyd, National Theatre Wales, a Theatr Genedlaethol Cymru wedi ymuno รขโi gilydd er mwyn darganfod, datblygu a chynhyrchuโr dramรขu newydd gorau yng Nghymru. Bydd AM DDRAMA / PLAY ON yn galluogi dramodwyr yng Nghymru i gysylltu'n uniongyrchol, ac ar yr un pryd, รข thri oโn cwmnรฏau cynhyrchu theatr mwyaf.
Ers Mawrth 2022, rydym yn cynnull panel eiddgar o chwech o ddarllenwyr, yn cynnwys gweithwyr llawrydd yn ogystal รข chynrychiolwyr oโr tri chwmni, i roi adborth ar waith Cymraeg a Saesneg newydd ac i baru'r sgriptiau a'r dramodwyr mwyaf addawol gyda'r cwmni sydd yn y sefyllfa orau i ddatblygu, comisiynu a chynhyrchu eu gwaith.
Bydd yr ail gohort o ddarllenwyr yn ymuno รขโr cynllun am dymor o chwe mis a bydd y panel yn dod at ei gilydd yn fisol (ar-lein) i drafod y dramรขu a gyflwynwyd. Cefnogir darllenwyr gydag arweiniad a chyflwyniad llawn ar y gwaith o ddarllen ac ysgrifennu adroddiadau ar gyfer AM DDRAMA / PLAY ON.
Bydd pob darllenydd llawrydd yn derbyn ffi o ยฃ200 y mis am hyd at ddau ddiwrnod o'u hamser, gan gynnwys cyfarfod misol y darllenwyr. Maeโn bosibl y bydd angen mwy o amser ar y darllenwyr o dro i dro (a thelir am yr amser hwnnw) a byddwn yn adolyguโn rheolaidd hyd a lled yr ymrwymiad o fis i fis (e.e., o ran nifer y dramรขu a derbynnir).
Am bwy yr ydym yn chwilio?
Byddem wrth ein bodd yn gweithio gyda darllenwyr o bob rhan o Gymru, gydag amrywiaeth o brofiadau bywyd a phrofiadau proffesiynol. Rydym yn chwilio am ddarllenwyr dramรขu yn y Gymraeg aโr Saesneg.
Os ydych chi'n mwynhau gwylio, darllen a siarad am ddramรขu, os ydych chi'n adnabod stori wych wrth ei darllen, os oes gennych chi deimlad greddfol am ddeialog da a lleisiau gwreiddiol, rydym ni am glywed gennych chi.
Bydd gennych ddiddordeb mewn datblygu eich gwybodaeth o ran storรฏo, ffurfiau dramataidd a datblygu sgriptiau a syniadau i'w perfformio. Efallai bod gennych brofiad mewn adran lenyddol cwmni theatr, fel golygydd sgript, fel swyddog datblygu syniadau neu fel dramodydd. Efallai eich bod chi'n gyfarwyddwr llwyfan, yn athro drama, neu'n fyfyriwr theatr neu lenyddiaeth. Efallai eich bod chi'n actor, yn ddylunydd set a gwisgoedd, yn gynhyrchydd neu gyfansoddwr, neuโn rhywun sydd รข chwaeth ddiflino am ddramรขu eithriadol. Efallai eich bod chi'n gweithio ym maes cyhoeddi, hysbysebu neu greu cynnwys a bod gennych angerdd am straeon anhygoel ar y llwyfan.
Fe ddylech chi fod yn 18+, yn Gymro/Cymraes, neu'n byw neu'n gweithio yng Nghymru.
Er mwyn mynegi diddordeb, e-bostiwch un dudalen o A4, yn y Gymraeg neuโr Saesneg, neu fideo heb fod yn hwy na 2 funud, i post@amddrama-playon.cymru gan esbonio pam yr hoffech gael eich ystyried i fod yn ddarllenydd i AM DDRAMA / PLAY ON.
Os ydych eisoes wedi mynegi diddordeb fel rhan oโr alwad agored diwethaf, nid oes angen i chi gyflwyno cais oโr newydd ond mae croeso i chi ail gyflwyno eich cais gwreiddiol. Am drafodaeth anffurfiol, e-bostiwch un oโr cydlynwyr yn y tri sefydliad sef alicerush@nationaltheatrewales.org neu sam.longville@theatrclwyd.com (os am sgwrs yn y Saesneg) neu gavin.richards@theatr.com (os am sgwrs yn y Gymraeg).