News Story

Meithrin y Genhedlaeth Nesaf o Theatr yn y Gymraeg:
Mae rhaglen newydd feiddgar yn meithrin ysgrifennu theatr yn y Gymraeg drwy ddod â rhai o leisiau mwyaf cyffrous byd y theatr yng Nghymru at ei gilydd. Yn weithredol tan fis Awst, Gair i Gall yw’r fenter ddiweddaraf gan Stiwdio Clwyd, hwb datblygu artistiaid cenedlaethol a lansiwyd yn ddiweddar gan Theatr Clwyd. Mae’r rhaglen yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grëwyr theatr yn y Gymraeg i archwilio sut mae dramâu newydd yn dod o hyd i’w llais a’u hunaniaeth.
Mae Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd, Suzanne Bell, yn barod iawn i nodi nad yw Gair i Gall yn gwrs hyfforddi cyffredin. "Nid rhaglen 'sut i' yw hon," eglura, "does dim un fformiwla unigol ar gyfer datblygu drama wych." Yn lle hynny, mae Suzanne yn ychwanegu, "mae’r siwrnai’n ymwneud â’r adnoddau i helpu crëwyr theatr i sicrhau bod drama’n cyflawni ei huchelgais theatrig - o ymchwil cefndir a strwythur y stori i’r dewisiadau sy’n ei chysylltu â’r gynulleidfa."
Grŵp i gadw llygad amdano
Yn greiddiol i Gair i Gall mae ei grŵp cyntaf – naw crëwr theatr nodedig o bob cwr o Gymru. Mae Mary Davies o Sir Gaerfyrddin a chwblhaodd ei PhD gyda'r Royal Shakespeare Company. Mae Melangell Dolma, o Wynedd, yn actores, dramodydd a chyfarwyddwr sydd wedi cael premiere ei drama gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae Sarah Bickerton, oedd yn Gyfarwyddwr Cyswllt gyda Theatr Cymru, yn cyfrannu profiad ar draws byd y ffilm, teledu a theatr.
Mae Gwawr Loader, sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, yn ddramodydd ac yn actores y mae ei gwaith diweddar yn cynnwys gwaith gyda Theatr y Sherman, Theatr Na n'Òg a Theatr Clwyd. Mae gan Rhiannon Mair PhD ymarferol yn y Gymraeg. Fe greodd Leo Drayton, awdur cwiar traws o Gaerdydd, hanes pan ddaeth Dy Enw Marw y ddrama gyntaf i gael ei llwyfannu yn y Gymraeg yn y National Theatre yn Llundain.
Yn cwblhau'r criw mae Nia Medi, sy’n dychwelyd at ei chariad cyntaf, sef ysgrifennu; gweithiwr creadigol dwyieithog sydd wedi’i fagu ar Ynys Môn, Tom Mumford, cydsylfaenydd y grŵp sain cwiar Coven Xperience; a'r nofelydd a'r bardd o Gaernarfon, Kayley Roberts, y mae ei gwaith yn hyrwyddo lleisiau sydd ar y cyrion yn niwylliant Cymru.
Rhestr wych o arweinwyr gweithdai
Mae'r rhaglen yn dod â chriw gwych o ymarferyddion at ei gilydd. Derbyniodd Suzanne Bell ei hun Wobr Kenneth Tynan am Ragoriaeth mewn Dramayddiaeth. Yn ymuno â hi mae'r dramatwrg arobryn Jeanie O'Hare; y cyfarwyddwr a enwebwyd am wobr Olivier, Guy Jones; Lowri Morgan, Cyswllt Llenyddol yn Theatr y Sherman gyda’i drama Ceridwen wedi teithio o amgylch Cymru y llynedd; Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen; a Bethan Marlow, a enwebwyd am Wobr Torri Trwodd BAFTA Cymru.
Creu dyfodol theatrig yn y Gymraeg
Y gobaith yw y bydd Gair i Gall yn gwneud mwy na datblygu unigolion, bydd hefyd yn creu gofod i gydweithredu a thrafod - gan osod y sylfaen ar gyfer sîn theatr yn y Gymraeg sy'n fwy hyderus, cysylltiedig ac uchelgeisiol yn greadigol.


