The Lamb Who Came For Dinner

See dates and times   –

Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd

Yn seiliedig ar y llyfr lluniau poblogaidd, The Lamb Who Came for Dinner, mae’r addasiad sioe gerdd newydd sbon yma’n dod â chynhesrwydd, ffraethineb a chaneuon hyfryd yn rhan o’r stori glasurol am gyfeillgarwch annisgwyl.

“Pan mae hen flaidd llwglyd yn cael ymweliad annisgwyl gan oen bach, mae’n dechrau cynllunio stiw blasus. Ond dydi’r oen ddim eisiau bod yn swper i’r blaidd – mae hi eisiau bod yn ffrind iddo…”

Yn y sioe gerdd hyfryd yma, mae bol llwglyd y Blaidd yn cyfarfod hwyl diderfyn yr Oen, gan droi swper syml yn siwrnai o dosturi, dewrder a grym trawsnewidiol caredigrwydd. Gyda chymeriadau bywiog a hiwmor llawn calon, bydd teuluoedd o bob oed yn syrthio mewn cariad â’r stori ddyrchafol yma unwaith eto.

Wedi’i addasu ar gyfer y llwyfan gan Bridget Foreman a’i gyflwyno’n fyw gan gwmni hynod lwyddiannus y Riding Lights Theatre Company, mae The Lamb Who Came for Dinner yn ddathliad llawen o gyfeillgarwch yn y llefydd mwyaf annisgwyl.
Perffaith i blant, teuluoedd ac unrhyw un sy’n credu bod calon fawr yn gallu newid y byd.


Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?

Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!

Cliciwch Yma
!