Strangers on a Train

See dates and times   –

Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd

Bill Kenwright Ltd sy’n cyflwyno
STRANGERS ON A TRAIN

Drama gan Craig Warner
Yn seiliedig ar y nofel gan Patricia Highsmith
Cyfarwyddwyd gan Roxana Silbert

Yn seiliedig ar y nofel gan Patricia Highsmith ac wedi’i hysbrydoli gan ffilm eiconig Hitchcock, mae Strangers on a Train yn cyrraedd y llwyfan mewn cynhyrchiad newydd cyffrous dan gyfarwyddyd Roxana Silbert.

Mae dau ddieithryn yn cyfarfod ar drên.

Mae gan Charles Bruno syniad: y drosedd berffaith. Dwy lofruddiaeth. Dau ddieithryn. Dim cymhelliad. Dim cysylltiad. Dim canlyniadau.

Mae Guy Haines yn diystyru hyn fel jôc. Ond dydi Bruno ddim yn tynnu coes.

Wrth i obsesiwn Bruno fynd allan o reolaeth, mae Guy yn cael ei ddal mewn hunllef o euogrwydd, cam-drin ac ofn.

Yn dywyll, yn afaelgar ac yn llawn tensiwn, mae Strangers on a Train yn ddrama gyffro seicolegol am obsesiwn, cam-drin a chanlyniadau dinistriol cyfarfyddiad ar hap.


Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?

Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!

Cliciwch Yma
!