Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd
Brilliant. It holds the audience in a vice-like gripSunday Express
A triumphDaily Mail
Knife-edge stuffMail on Sunday
Bywyd yn y fantol. Deuddeg dyn. Un dyfarniad.
Yn dilyn tymhorau torri record yn y West End, mae'r cynhyrchiad pwerus hwn o Twelve Angry Men yn ôl ar waith!
Mae Twelve Angry Men wedi cael ei chanmol fel ‘y ddrama fwyaf cain a deallus sy’n cael ei pherfformio yn y West End’. Daw â’r ffilm o 1957 – a chafodd ei henwebu dair gwaith am Wobr yr Academi ac sy’n cael ei hystyried yn un o’r gweithiau gwych y mae’n rhaid ei gweld – i’r llwyfan.
Mae gan reithgor lofruddiaeth ar eu meddyliau a bywyd yn eu dwylo wrth iddynt benderfynu ar dynged troseddwr ifanc a gyhuddir o ladd ei dad. Ond mae’r hyn sy’n ymddangos yn achos syml a chlir yn fuan yn troi’n ddilema mawr iawn; mae rhagfarnau a syniadau rhagdybiedig am y sawl a gyhuddir, am y treial ac am ei gilydd yn troi’r sefyllfa benben dro ar ôl tro, hyd at y diweddglo llawn tyndra...
Mae’r ddrama gyffrous hon gan Reginald Rose, sy’n ymwneud â’r llys barn, yn serennu Gray O’Brien (Coronation Street, Peak Practice), Bill Ward (Emmerdale, Coronation Street), Ricky Norwood (EastEnders), Tristan Gemmill (Casualty, Coronation Street) a Ben Nealon (Soldier Soldier).
Bellach, eich tro chi yw hi i weld y sioe hon sy’n ‘WYCH’, ‘AFAELGAR’ ac yn ‘LLWYDDIANT YSGUBOL’.

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!







