A Thousand Splendid Suns

See dates and times   –

5 Stars

Voice Magazine

4 Stars

WhatsOnStage
Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd

5 Stars

A gorgeous story of survival
Voice Magazine

4 Stars

An essential piece of modern theatre
WhatsOnStage

Birmingham Rep sy’n cyflwyno’r cynhyrchiad pwerus o nofel boblogaidd Khaled Hosseini, A Thousand Splendid Suns – llyfr sydd wedi gwerthu mwy na 38 miliwn o gopïau ledled y byd ac sy’n ddilyniant ysbrydol i The Kite Runner gan yr un awdur.

Yn 1992, ac Afghanistan wedi’i dryllio gan ryfel, mae Laila – sydd wedi colli ei rhieni – ar ei phen ei hun mewn byd sy’n mynd yn fwyfwy peryglus. Mae ei chymydog hŷn, Rasheed, yn barod iawn i gynnig cartref iddi ac yn ei chymryd yn ail wraig iddo.

Does gan wraig gyntaf Rasheed, Mariam, ddim ddewis ond derbyn ei chystadleuydd iau, sydd bellach yn feichiog. Wrth i’r Taliban gymryd rheolaeth, mae bywyd yn troi’n frwydr anobeithiol iddyn nhw i gyd ymladd yn erbyn newyn, creulondeb ac ofn, ac mae’r ddwy fenyw yn dod o hyd i gyfeillgarwch annisgwyl.

Yn dilyn cyfres o berfformiadau a werthodd bob tocyn yn Birmingham Rep yn 2025, daw’r addasiad llwyfan o’r nofel sydd wedi gwerthu miliynau gan Khaled Hosseini, A Thousand Splendid Suns, i Theatr Clwyd.


Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?

Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!

Cliciwch Yma
!