Wedi'i ffilmio'n fyw yn y Starlight Auditorium – a ddyluniwyd yn arbennig yn Theatr Troubadour Wembley Park, bydd Starlight Express gan Andrew Lloyd Webber yn cludo'r gynulleidfa i fyd o gyflymder, canu ac adrodd stori. Bydd cast anhygoel o 40 o berfformwyr yn chwyrlio ar draws y sgrin, ac yn cyflwyno rhai o ganeuon mwyaf annwyl byd y sioeau cerdd.
Pan ddaw set drenau plentyn yn fyw yn hudolus a'r locomotifau'n rasio i weld pwy sydd gyflymaf yn y byd, nid oes llawer o obaith i Rusty, y trên stêm, ennill – nes iddo gael ei ysbrydoli gan chwedl y ‘Starlight Express’.



