🔐 Sicrhewch fynediad cynnar i'n sioeau mwyaf poblogaidd!
Mae Aelodaeth Cyfeillion yn rhoi blaenoriaeth i chi archebu - ymunwch nawr a sicrhewch eich sedd.
Tocynnau i aelodau ar werth 16 Mehefin
Tocynnau i’r cyhoedd ar werth 23 Mehefin
…beautiful and deeply movingThe Arts Desk
Bob blwyddyn, mae Sinfonia Cymru’n cydweithredu gydag artistiaid a sêr rhyngwladol, adnabyddus, sy’n eu hysbrydoli a’u herio. Mae eu cydweithrediad traws-ddiwylliannol diweddaraf yn fersiwn newydd, ehangach o Songs We Carry – perfformiad clodfawr a deithiwyd gan Ana Silvera a Saied Silbak dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n archwilio melancoliaeth emosiynol cerddoriaeth Ladino, a’r Maqams cyfoethog a melodïau cymhleth caneuon Arabaidd.
Mae Patrick Times, y cerddor enwog o Gymru, wedi ail-sgorio Songs We Carry i’w perfformio gan Ana, Saied, ef ei hun, a phedwar o gerddorion Sinfonia Cymru, gan ychwanegu caneuon Cymreig cyflenwol i’r set. Ymunwch â Sinfonia Cymru am raglen gyfoethog ac amrywiol o gerddoriaeth o wahanol wledydd, sy’n addo adeiladu ar sioe wreiddiol a ddisgrifir fel “beautiful and deeply moving”. (The Arts Desk, ☆☆☆☆☆)



