Pedair

See dates and times  

🔐 Sicrhewch fynediad cynnar i'n sioeau mwyaf poblogaidd!

Mae Aelodaeth Cyfeillion yn rhoi blaenoriaeth i chi archebu - ymunwch nawr a sicrhewch eich sedd.

Tocynnau i aelodau ar werth 16 Mehefin

Tocynnau i’r cyhoedd ar werth 23 Mehefin


Mae Pedair yn dwyn ynghŷd dalentau pedair o artistiaid gwerin arobryn amlycaf Cymru: Siân James, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn and Meinir Gwilym.

A'r pedair yn artistiaid rhyngwladol blaengar eu hunain, maent yn ffynnu wrth gydweithio a pherfformio'n fyw. Gyda'i gilydd dônt â bywyd newydd i ddeunydd traddodiadol gyda threfniannau newydd ar delynau, gitârs a phiano. Mae eu perfformiadau byw wedi cydio yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd, gyda'u harmonîau ysgubol, ymdriniaeth grefftus o'r traddodiad, ac agosatrwydd y caneuon maent yn eu cyfansoddi.

Gwelodd eu recordiadau cyntaf olau dydd yn ystod y cyfnod clo, a buan y daeth eu caneuon yn hynod boblogaidd, ac yn ffynhonnell cysur a gobaith annisgwyl i nifer o bobol. Rhyddhawyd eu halbym cyntaf, 'Mae' na olau', ar label Sain yn 2022, albym a enillodd iddynt wobr 'Albym Cymraeg y Flwyddyn' yn 2023. Rhyddhawyd eu hail albym hirddisgwyliedig, 'Dadeni', yn 2024.

Maent wedi perfformio'n helaeth yng Nghymru ac yn ddiweddar mewn gwyliau yn Ewrop a Canada. Ym mis Tachwedd 2025 buon yn perfformio fel rhan o daith arbennig i'r Wladfa ym Mhatagonia.


Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?

Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!

Cliciwch Yma
!