Solve Along A Murder She Wrote

See dates and times  

Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd

Mae’r digwyddiad cwlt poblogaidd Solve-Along-A-Murder-She-Wrote yn dod i’r Wyddgrug gyda dangosiad rhyngweithiol o bennod nodedig o Murder, She Wrote, sef “A Fashionable Way to Die”. Mae Jessica Fletcher yn ymweld â ffrind sy’n gynllunydd ym Mharis, ond yn fuan iawn mae llofruddiaeth yn digwydd a dim ond JB (neu chi!) fedr ei datrys!

Mae Solve-Along-A-Murder-She-Wrote yn noson unigryw a hynod ddoniol sy’n cynnwys gemau, gwobrau a chyfranogiad y gynulleidfa, gyda chaniatâd arbennig gan NBC Universal Television. Dewch i weld sioe gafodd ei dewis gan Time Out fel un o’r 50 Noson Allan Orau yn Llundain yn 2019 a 2021, sioe sydd wedi denu cynulleidfaoedd llawn ym mhob rhan o’r DU, Iwerddon, UDA ac Awstralia, yn ogystal ag yng Ngŵyl Fringe Caeredin yn 2023-2025, Fringe Adelaide yn 2025 a Gŵyl Murder, She Wrote 2025 yng Nghaliffornia.

Yn cael ei chyflwyno gan yr arch-gefnogwr, Tim Benzie, mae Solve-Along-A-Murder-She-Wrote yn cynnwys:

  • Ras i ddatrys y drosedd, gan ddefnyddio’r Fameometer a’r Suspiciometer!
  • Cwis Cabot Cove!
  • Cyfle i gydganu’r gân thema gyda geiriau newydd!
  • Clipiau a bywgraffiadau o’r sêr gwadd!

Mae gan Tim Benzie obsesiwn gyda Murder, She Wrote, ar ôl gwylio’r gyfres wreiddiol pan gafodd ei darlledu gyntaf, ac mae bellach yn mwynhau gwylio’r ailddarllediadau ar y teledu ym mhobman. Mae’n ddramodydd arobryn ac yn gyd-awdur pantomeimiau’r Royal Vauxhall Tavern rhwng 2017 a 2025, gan gynnwys y sioe ‘Tossed’ yn 2023 a enillodd Wobr Offie (Off West End). Mae’n gydgynhyrchydd digwyddiadau PopHorror.


Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?

Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!

Cliciwch Yma
!