Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd
Mae sioe theatr Robbie Cumming, sy’n bersonoliaeth ar y teledu, yn flogiwr, yn ffrydiwr ac yn artist recordio, wedi gwerthu pob tocyn ledled y wlad.
Mae ei noson hwyliog a rhyngweithiol, sy’n sôn am ddihangfa ar thema camlesi, wedi dal dychymyg pobl sy’n hoff o gamlesi, ffyrdd amgen o fyw ac adrodd straeon. Dyma gyfle i ddarganfod byd cyfrinachol o ddyfrffyrdd troellog, lociau sy’n gollwng a chymeriadau’r camlesi, wrth i chi archwilio camlesi Lloegr drwy straeon, cerddoriaeth, ffotograffau, fideos a sesiwn holi ac ateb.
Mae’r unigryw Robbie yn adnabyddus am archwilio camlesi anodd eu cyrraedd, goresgyn damweiniau amrywiol a rhannu’r stori wir am fyw ar gwch. Mae chweched cyfres deledu Canal Boat Diaries allan bellach. Mae’r rhaglen ddogfen arddull flog yn canolbwyntio ar fywyd ar y camlesi yn Ne, Canolbarth a Gogledd Orllewin Lloegr, a dyma’r tro cyntaf i raglen ddogfen o’r fath gael ei ffilmio gan ddefnyddio ffôn symudol fel y prif gamera. Mae sioe Robbie hefyd yn cynnwys rhai o’i gyfansoddiadau cerddorol eiconig, a recordiwyd ar fwrdd ei gwch cul 44 oed, 'Naughty Lass'.

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!



