The Royal Ballet
Yng nghrombil budr Paris yn y 18fed ganrif, mae arian yn frenin. Does dim byd yn gysegredig โ mae posib prynu cariad hyd yn oed am y pris iawn. Yn hanu o'r is-fyd hedonistaidd yma, mae Manon yn cael ei dal rhwng dau chwant pan mae hi'n syrthio mewn cariad รข'r myfyriwr Des Grieux. Yn gadarn ac yn ymroddedig, mae'n cynnig y posibilrwydd o fywyd anrhydeddus. Ac eto, mae'r cyfoeth syโn cael ei addo gan fyd cymdeithas Paris yn parhau i fod yn demtasiwn...
Mae cythrwfl mewnol Manon a'i brwydr i oroesi wrth galon ddinistriol addasiad Kenneth MacMillan yn 1974 o nofel Abbรฉ Prรฉvost. Yn y gwaith yma syโn nodweddiadol o The Royal Ballet, mae dealltwriaeth fanwl MacMillan o seicoleg ddynol yn cyflwyno cipolwg diysgog ar ddirywiad moesol Paris ym myd Manon, ac mae ei holl ddadfeiliad a'i phydredd yn dod yn fyw i ni drwy sgรดr Jules Massenet a dyluniadau Nicholas Georgiadis.
Agor oriel o luniau




Tรฎm Creadigol:
Coreograffydd KENNETH MACMILLAN
Cerddoriaeth JULES MASSENET
Cerddorfa MARTIN YATES
Arweinydd KOEN KESSELS
Cynllunydd NICHOLAS GEORGIADIS
Cynllunydd Goleuo JACOPO PANTANI