Royal Ballet: ALICE’S ADVENTURES IN WONDERLAND

See dates and times  

The Royal Ballet

Mewn parti gardd ar brynhawn heulog, mae Alice yn synnu o weld ffrind ei rhieni, Lewis Carroll, yn trawsnewid yn gwningen wen. Pan mae hi'n ei ddilyn i lawr twll cwningen, mae’r digwyddiadau'n mynd yn rhyfeddach ac yn rhyfeddach…

Wrth i Alice deithio drwy Wonderland, mae hi'n dod ar draws creaduriaid rhyfedd dirifedi. Mae hi'n cael ei hysgubo oddi ar ei thraed gan y Knave of Hearts swynol, sydd ar ffo am ddwyn tartenni. Mae mwy a mwy o ddryswch. Wedyn mae Alice yn deffro gyda naid. Ai breuddwyd oedd y cyfan?

Fe ddaeth Alice’s Adventures in Wonderland gan Christopher Wheeldon i’r llwyfan yn 2011 mewn ffrwydrad o liw, hud llwyfan a choreograffi dyfeisgar, soffistigedig.

Mae sgôr Joby Talbot yn cyfuno bydoedd sain cyfoes gydag alawon ysgubol sy'n debyg i sgoriau ballet yr 19eg ganrif. Mae dyluniadau hynod ddychmygus a syfrdanol Bob Crowley yn tynnu ar bopeth o bypedwaith i dafluniadau i wneud y wlad hud yn rhyfeddol o real.

Mae'r canlyniad yn dangos The Royal Ballet ar ei orau, gan gyfuno dawnsio o safon byd gydag adloniant teuluol hudolus a cherddoriaeth a dylunio dyfeisgar.