The Royal Ballet
The Nutcracker [Adfywiad]
Mewn parti Nadolig clyd, mae Clara ifanc yn cwrdd â'r dewin dirgel Drosselmeyer, sy'n rhoi dol gefail gnau iddi. Ar ôl i’r gwesteion adael a'r tŷ yn cysgu, mae Clara yn sleifio i lawr y grisiau i chwilio am y ddol. Yn lle hynny, mae hi'n dod o hyd i Drosselmeyer, sy'n ei chludo hi ar siwrnai i fyd llawn hud: tirweddau ffantasïol o eira’n lluwch a melysion disglair lle mae teganau'n dod yn fyw a'r hud byth yn dod i ben.
Mae cynhyrchiad Peter Wright o'r ffefryn teuluol Nadoligaidd yma’n pefrio i gyfeiliant rhyfeddol sgôr gerddorfaol Tchaikovsky, ochr yn ochr â llewyrch a mawredd dyluniadau cyfnod Julia Trevelyan Oman.
Agor oriel o luniau



