NT Live: The Misanthrope

See dates and times  

The Misanthrope
gan Martin Crimp
ar ôl Molière
cyfarwyddwyd gan Indhu Rubasingham

Sandra Oh (Killing Eve), sydd wedi ennill sawl gwobr, sy’n chwarae’r brif ran yn yr ail-gread craff yma o gomedi dywyll nodedig Molière.

Dydi dweud y gwir ddim bob amser yn syml. Mae Alice, nofelydd gwych, yn dirmygu celwyddau gofalus cymdeithas fodern. Ond po fwyaf mae hi'n herio'r rhai o'i chwmpas, y mwyaf ffyrnig yw’r ymateb. Cyn bo hir, rhaid iddi wynebu pris dweud ei gwirionedd mewn byd a fyddai'n ffafrio ei thawelu.

Wedi’i ffilmio’n fyw ar y llwyfan yn y National Theatre, Indhu Rubasingham sy’n cyfarwyddo drama Martin Crimp (Cyrano de Bergerac) y mae disgwyl mawr wedi bod amdani.