The Metropolitan Opera
Mae dau o artistiaid mwyaf rhyfeddol byd yr opera’n dychwelyd ar gyfer y Met: Yn Fyw mewn HD ar gyfer fersiwn cyffrous Verdi o stori oesol Shakespeare am y cwpl cynllwyngar sy'n benderfynol o gipio pŵer ar unrhyw gost.
Yn dilyn llwyddiant yn y gorffennol mewn sawl rôl nodweddiadol i fariton gan Verdi, Quinn Kelsey ydi’r brenin Albanaidd sy'n cael ei boeni gan ysbrydion ei esgyniad llofruddiol i'r orsedd, ac ochr yn ochr ag o bydd Lise Davidsen – soprano fwyaf dramatig y byd - fel Lady Macbeth wallgof am bŵer, y mae ei huchelgais dinistriol yn eu melltithio ill dau. Mae Cyfarwyddwr Cerdd y Met, Yannick Nézet-Séguin, yn camu i’r podiwm ar gyfer cynhyrchiad treiddgar gan Louisa Proske, cyfarwyddwr ifanc disglair sy'n creu cynnwrf ledled y byd. Yn cwblhau'r cast llawn sêr mae'r tenor Freddie De Tommaso fel yr arwrol Macduff a'r bas-bariton Ryan Speedo Green fel ffrind ac wedyn dioddefwr Macbeth, sef Banquo.
Mae'r cynhyrchiad yma’n rhan o gyfres arobryn Yn Fyw mewn HD y Met, sy'n dod ag opera i sinemâu ledled y byd.
