🔐 Sicrhewch fynediad cynnar i'n sioeau mwyaf poblogaidd!
Mae Aelodaeth Cyfeillion yn rhoi blaenoriaeth i chi archebu - ymunwch nawr a sicrhewch eich sedd.
Tocynnau i aelodau ar werth 16 Mehefin
Tocynnau i’r cyhoedd ar werth 23 Mehefin
His storytelling is gripping, his facts are fascinating, and his punchlines are perfectly timed.Edinburgh Reviews
100% Badgers ydi’r sioe gomedi stand-yp werthodd bob tocyn yn y Fringe yng Nghaeredin yn 2025 ac ynddi mae Matt Hobs yn siarad am sut mae bydoedd pobl a moch daear yn gwrthdaro.
Mae'r sioe'n mynd â ni ar siwrnai gyda Hobs o ddiddordeb didaro mewn moch daear i obsesiwn sy'n arwain ato'n sefyll mewn cae yn edrych ar fochyn daear ofnus mewn cawell sydd wedi'i ddal oherwydd y wybodaeth anghywir sy’n rhan o’r ddadl am TB mewn gwartheg. Byddwn yn dysgu am y mochyn daear Ewropeaidd a'i nemesis dachshund, y mochyn daear Americanaidd arlywyddol, y seren rhyngrwyd byd-enwog - y mochyn daear mêl - a llawer mwy.

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!


