Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd
Mae Burum yn fand unigryw sy'n cyfuno alawon gwerin Cymru â jazz.
Eleni, bydd Burum yn dathlu 20 mlynedd fel band, ac i nodi'r garreg filltir yma bydd y band yn teithio ac yn perfformio ledled Cymru.Y trwmpedwr blaenllaw Tomos Williams sydd yn arwain Burum sydd hefyd yn cynnwys nifer o sêr y sîn jazz Cymraeg yn ogystal a'r cerddor gwerin adnabyddus Patrick Rimes ar y pibau a'r chwibanogl - sy'n gosod sain Burum y tu allan i unrhyw gategori neu genre penodol ar unwaith. Jazz Gwerin, gwerin jazz, pwy a ŵyr?
Mae cerddoriaeth y band yn cyfuno hyblygrwydd a deinameg byrfyfyrio jazz gyda parch dwfn at yr alawon gwerin - perfformir alawon hardd, melancolaidd ochr yn ochr ag unawdau tanbaid a rhythmau bywiog. Dros yr ugain mlynedd diwetha' mae Burum wedi datblygu dealltwriaeth delepathig wrth berfformio ledled y byd.
Mae Burum yn cynnwys rhai o gerddorion jazz a gwerin mwyaf creadigol Cymru ac mae cymysgu'r cynhwysion hyn yn creu sain unigryw ac arbennig Burum.
Trwmped: Tomos Williams
Sacsoffon tenor: Daniel Williams
Pibau a ffliwt: Patrick Rimes
Piano: Dave Jones
Bas: Aidan Thorne
Drymiau: Mark O'Connor

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!



