Cerys Hafana

See dates and times  

Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd

Mae Cerys Hafana o Gymru yn cyfansoddi, yn canu ac yn chwarae sawl offeryn ac mae'n siapio, yn amrywio ac yn trawsnewid cerddoriaeth draddodiadol. Daw Cerys o Fachynlleth, Cymru, lle mae afonydd a ffyrdd yn cyfarfod ar y ffordd i'r môr.

Prif offeryn Hafana yw'r delyn deires Gymreig ac mae'n archwilio ei holl bosibiliadau creadigol a'i rhinweddau unigryw, gan arbrofi gyda synau, deunyddiau archifol a phrosesu electronig. Mae eu cerddoriaeth hudolus yn llawn awyrgylch ac emosiwn ac yn ystyfnig o anodd ei rhoi mewn bocsys genre neu ei dosbarthu'n hawdd.

Mae Angel, eu halbwm diweddaraf ar label tak:til/Glitterbeat, a ryddhawyd ym mis Medi 2025, yn archwiliad dwfn o finimaliaeth a cherddoriaeth werin draddodiadol ac arbrofol, gyda chaneuon (yn y Gymraeg i gyd) a darnau offerynnol am yn ail. Yn ategu’r cyfan yn aml mae triawd medrus o gerddorion cydymdeimladol ac archwiliadol (drymiau, bas dwbl, sacsoffon alto). Yn 2026, bydd y sioeau byw yn arddangos sain ddeinamig y triawd newydd yma.

Mae amrywiaeth ac arloesedd rhyfeddol Angel yn cadarnhau safle Hafana fel un o artistiaid gwerin cyfoes ifanc mwyaf cyffrous y DU, gyda The
Guardian yn ei ddewis fel Albwm Gwerin y Mis.


Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?

Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!

Cliciwch Yma
!