🔐 Sicrhewch fynediad cynnar i'n sioeau mwyaf poblogaidd!
Mae Aelodaeth Cyfeillion yn rhoi blaenoriaeth i chi archebu - ymunwch nawr a sicrhewch eich sedd.
Tocynnau i aelodau ar werth 16 Mehefin
Tocynnau i’r cyhoedd ar werth 23 Mehefin
Mae Bara Caws yn Hannar Cant oed! Meddyliwch be’ mae’r Cwmni hynod yma wedi ei roi i ni fel cenedl ar hyd y blynyddoedd. Y difrifoldeb, yr herio, y diddanwch, yr hwyl. Oriau bwy gilydd o ddangos ni ein hunain i ni ein hunain. A sioc yr hunan-adnabyddiaeth yna ambell dro.
Sut i ymateb i hyn. Fyny i chi. Ond ymatebwch.
Fy ymateb i yw Y Bugail Geifr. Pryddest, dwi wedi ei galw hi. Ar ffurf monolog. Ei hunig bwrpas hi yw talu gwrogaeth ddiflewyn ar dafod i’r Cwmni oddi wrtha i yr wyf wedi cael y fraint o ysgrifennu sawl sioe iddo. Deud Diolch ydy’r unig nod. Ond mewn ffordd sy’n gwneud i ni holi’r cwestiwn: Be’ ydy’ calon theatr? Mae’n gân o fawl i’r theatr hefyd.
A chael Dyfan Roberts i action! Un o dadau’r cwmni. Erbyn hyn i lais actor arbennig y byddai’n sgwennu. Llais Dyfan sy’n hydreiddio hon. Ond hefyd lleisiau eraill sydd wedi cyfrannu i fywyd y Cwmni
Mae Y Bugail Geifr yn llawn ysbrydion. Un actor… ond yn drybola o bobol.
Aled Jones Williams
Cast : Dyfan Roberts
Cyfarwyddo : Betsan Llwyd

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!



