Te Angladd

See dates and times  

‘Da chi'n gwybod bod chi'n mynd yn hen pan ‘da chi’n cael eich gwahodd i lai a llai o briodasau ac yn dechrau hel angladdau...

Ar ôl blwyddyn o gyfleoedd coll a thecsts ganol nos, mae llwybrau Lowri ac Idris yn croesi unwaith eto... mewn angladd. Tra bod Lowri’n rhygnu byw ar y fferm ym Mhen Llŷn, mae Idris yn suddo i’w unigedd yn ei dŷ teras tamp yng Nghaerdydd. Ond ar ôl marwolaeth annisgwyl, mae’n rhaid i’r ddau ohonyn nhw wynebu gwirioneddau mawr am eu dyfodol a gofyn y cwestiwn, “be ‘dw i isio go iawn?”

Emynau, teyrngedau a chladdu brechdanau, mae Te Angladd gan Gruffudd Owen yn ddrama gomedi newydd am gariad, galar a gwirioneddau cudd. Yn dilyn llwyddiant ysgubol Parti Priodas, mae Mared Llywelyn a Mark Henry-Davies yn dychwelyd fel Lowri, Idris a’r holl gymeriadau eraill, gyda’r cyfarwyddwr Rhian Blythe wrth y llyw.

Dyma ffarwel i’w gofio!

Ymunwch a ni cyn y sioe am gerddoriaeth Cymraeg Gwyl Ddewi o 5yh ymlaen.


Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi gyda bwydlen sefydlog 2 gwrs + diod yn Bryn Williams cyn y sioe.

Gwnewch noson ohoni ac archebu swper gyda'ch tocyn gyda'r cynnig arbennig yma.

Dim ond £54 am un tocyn i'r sioe a phryd o fwyd dau gwrs ym mwyty Bryn Williams.
Dim ond £52.50 i aelodau. Beth am ddod yn aelod.

Ar ôl i chi ychwanegu eich tocyn sioe at eich basged, ychwanegwch y cynnig bwyd drwy symud ymlaen i'r dudalen nesaf.