Wedi'i leoli ar y llawr cyntaf yn edrych dros fryniau trawiadol Clwyd, yn y bistro modern Cymreig yma bydd coginio Ffrengig yn cwrdd â chynhwysion Cymreig. Bydd ein gofod llawn golau, gyda'i awyrgylch bwyta anffurfiol, yn defnyddio'r cynhwysion lleol gorau un, gyda chig a llysiau’n cael lle amlwg.

Mae'n hygyrch drwy gydol y dydd ar gyfer brecwast, cinio a swper. Er bod posib i chi wneud hynny, does dim rhaid i chi archebu sioe bnawn neu nos yn y theatr i ddod i fwynhau danteithion y bwyty neu'r teras.

Bydd ein bwyty ar agor ar gyfer brecwast, cinio, swper a the prynhawn.
Mae saladau, brechdanau a chacennau ffres ar gael o'n siop ar y llawr gwaelod, tra bydd ein bar ar agor o 9am bob dydd.


Mwy o wybodaeth bwydlen ar wefan Bryn Williams.

* Mae bwydlenni yn amodol ar amrywiadau bach