Cwestiynau Cyffredin

Ydi Bryn yn coginio yn Theatr Clwyd?
Ydi, mae Bryn yn coginio'n rheolaidd yn Theatr Clwyd!
Ydych chi'n cynnal digwyddiadau arbennig?
Rydyn ni'n cynnal digwyddiadau arbennig โ cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan ni am fanylion.
Oes gennych chi opsiynau llysieuol?
Oes. Mae gennym ni opsiynau llysieuol a fegan ar gael.
O ble ydych chiโn cael eich cynnyrch?
Ein nod ni yw defnyddio cyflenwyr a chynhyrchwyr lleol. Mae gan Ogledd Cymru gynhyrchwyr bwyd anhygoel ac rydyn niโn falch oโu defnyddio nhw.
Oes posib mwynhau swper a gweld sioe hefyd?
Oes โ mae gennym ni amseroedd eistedd lle gallwch chi fwynhau pryd dau neu dri chwrs ac wedyn gweld un o'n sioeau ni o safon byd.
Oes raid i mi archebu bwrdd neu ddim ond dod iโr bwyty?
Does dim rhaid archebu, er hynny, byddem yn argymell archebu ymlaen llaw bob amser yn ystod adegau prysur (gyda'r nos fel arfer, yn gynnar, yn ystod y ddwy awr cyn i sioeau a ffilmiau ddechrau).
Sut gallwn ni archebu lle ymlaen llaw?
Mae posib archebu lle yn y bwyty hyd at 12 mis ymlaen llaw.
Sut mae archebu bwrdd?
Cliciwch yma!
Allwch chi ddarparu ar gyfer grwpiau mawr?
Gallwn. Byddem yn argymell eich bod yn archebuโn gynnar โ cysylltwch รข ni a gallwn roi gwybod i chi am argaeledd.
Oes gennych chi opsiynau dim glwten?
Oes - bydd gennym ni opsiynau DCCG (dim cynhwysion yn cynnwys glwten) ar y fwydlen (neu opsiynau y mae posib eu newid i'w gwneud yn rhai DCCG). Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu!
Mae gen i alergeddau - ydych chi'n gallu gwneud newidiadau iโr fwydlen?
Gallwn ddarparu ar gyfer pob alergedd os byddwch yn rhoi rhybudd wrth archebu.
Pryd fydd y fwydlen yn cael ei chyhoeddi?
Mae ein bwydlen brecwast ac a la carte niโn newid yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn i gyd-fynd รขโr tymhorau. Bydd ein bwydlenni ni ar werth o 1 Mehefin 2025 ymlaen.
A fyddaf yn gallu prynu llyfr coginio neu gynhyrchion Bryn?
Byddwch, mae llyfrau Bryn ar gael yn y bwyty ynghyd รข nwyddau Brynโs Kitchen, ond hefyd ar-lein yma.
Faint maeโr prydau yn ei gostio?
Mae gennym ni amrywiaeth o opsiynau i chi eu mwynhau โ o frechdanau a chacennau yn ein caffi ni iโn bwydlen tri chwrs โ ein nod ni yw darparu ar gyfer amrywiaeth o gyllidebau.
Oes posib i mi bicio i mewn a mwynhau brechdan a chacen?
Oes wrth gwrs! Rydyn niโn gweini dewis amrywiol o frechdanau a baguettes, rholiau cig moch, bocsys bysedd pysgod ac amrywiaeth o gacennau.
Ydw iโn gallu archebu lle heb orfod gweld sioe?
Ydych, ac rydyn niโn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu chi. Cliciwch yma i archebu.


