Oriau Agor

Bydd ein bwyty ni’n agor ym mis Mai 2025.
Y Bwyty
Wedi'i leoli ar y llawr cyntaf yn edrych dros fryniau trawiadol Clwyd, yn y bistro modern Cymreig yma bydd coginio Ffrengig yn cwrdd â chynhwysion Cymreig. Bydd ein gofod llawn golau, gyda'i awyrgylch bwyta anffurfiol, yn defnyddio'r cynhwysion lleol gorau un, gyda chig a llysiau’n cael lle amlwg. Mae gan ein bar ni ddewis gwych o gwrw Prydeinig, rhestr win drawiadol ac mae'n gweini byrbrydau bar clasurol. Cliciwch yma i archebu
Mae'n hygyrch drwy gydol y dydd ar gyfer brecwast, cinio a swper. Er bod posib i chi wneud hynny, does dim rhaid i chi archebu sioe bnawn neu nos yn y theatr i ddod i fwynhau danteithion y bwyty neu'r teras.
Oriau Agor Dyddiol
Bwyty
Brecwast: 9:30am - 11:30am
Cinio: 12pm - 2:30pm
Te Prynhawn: 3pm - 4pm
Swper: 5pm - 8:30pm
Cinio Sul: 12pm - 3:30pm (bob dydd Sul)
Bar
Oriau Agor: O 9am
Bwyd Bar: 9:30pm - 8:30pm (Sul 7pm)
Bwyd a diod cyflym
Yn cynnwys saladau, brechdanau, cacennau a choffi.
O 8:30am


