Amodau Gwerthu

  • Ni fyddem yn ad-dalu arian na ffioedd.
  • Caiff y rheolwyr yr hawl i wrthod mynediad i berfformiadau ac, os bydd angen, i newid y rhaglen yn ddirybudd.
  • Gwaherddir defnyddio camerâu ac offer recordio yn gyfangwbwl.
  • Ni chaniateir mynediad i rai sy’n hwyr yn cyrraedd nes bydd egwyl addas yn y perfformiad.

Newid Tocynnau ac Ail-werthiant

Newid tocynnau: Gellir newid tocynnau am berfformiad arall o’r un cynhyrchiad 24awr cyn y perfformiad (ffi £1 y tocyn). Bydd hyn yn ol ewyllys y rheolwr ac yn dibynnu ar argaeledd.

Ail-werthiant – Gall tocynnau nad ydych eisiau bellach, gael eu dychwelyd i’r Swyddfa Docynnau ar gyfer Ail-Werthiant. Bydd y tocynnau sydd wedi eu dychwelyd yn cael eu cynnig ar gyfer ail-werthiant, pan mae’r perfformiad wedi Gwerthu Allan yn unig.
Bydd cwsmeriaid yn derbyn Ad-daliad neu Gredyd am werth unrhyw docyn sydd wedi ei hail-werthu.
Bydd ffî ail-werthiant o £1 y tocyn yn cael ei godi. (Ni fydd ad-daliad na chredyd yn cael ei roi am docynnau sydd heb eu gwerthu).


Cynnig Arbennig – Prynu Tocyn i fwy nag un Ffilm

  • Arbedwch hyd at 20% gyda'n cynnig arbennig i brynu tocyn i fwy nag un ffilm.
  • Archebwch 3 ffilm wahanol ac arbed 10%
  • Archebwch 4 ac arbed 15%
  • Archebwch 5 ac arbed 20%.
  • Rhaid archebu’r ffilmiau i gyd ar yr un pryd er mwyn cael y gostyngiad.
  • Ac eithrio Opera’r Met a Sgrinio Byw
  • Mae’r cynnig hwn yn dibynnu ar argaeledd, ac fe all y cynnig hwn gael ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg yn ôl disgresiwn Theatr Clwyd
  • Ni ellir defnyddio'r cynnig hwn gydag unrhyw gynnig arall.

Termau ac Amodau Aelodaeth

1 – Cyflwyniad

Diolch i chi am ddod yn Aelod o Theatr Clwyd. Mae Telerau ac Amodau eich Aelodaeth fel a ganlyn. Darllenwch y rhain yn ofalus oherwydd drwy wneud cais am Aelodaeth a thalu’r Ffi Aelodaeth rydych chi’n cytuno i gadw at y telerau a’r amodau hyn. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich Aelodaeth wedi cael ei derbyn ac wedyn bydd hyn yn creu contract dilys rhyngoch chi a Theatr Clwyd ac yn clymu’r ddwy ochr.

2 – Diffiniadau

    • Ystyr Theatr Clwyd yw Theatr Clwyd o Lôn Raikes, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1YA.
    • Ystyr Aelod yw chi a / neu unrhyw Aelod arall o Gynllun Aelodaeth Theatr Clwyd (gan ddibynnu ar gyd-destun ei ddefnyddio). Sylwer bod y telerau a’r amodau hyn yn berthnasol i bob Aelod.
    • Ystyr Manteision Aelodaeth yw’r manteision sydd wedi’u datgan yng nghymal 3, isod.
    • Ystyr Cerdyn Aelodaeth yw’r cerdyn neu’r cardiau a ddarperir i chi gan Theatr Clwyd, yn cadarnhau eich bod yn Aelod;
    • Ystyr Ffi Aelodaeth yw’r arian rydych chi wedi’i dalu i Theatr Clwyd i fod yn Aelod.
    • Ystyr Cyfnod Aelodaeth yw’r dyddiad pryd mae Theatr Clwyd yn cydnabod eich Aelodaeth ar ôl derbyn eich Ffi Aelodaeth tan y dyddiad pryd daw eich Aelodaeth i ben. Fel rheol bydd hyn yn 12 mis o’r dyddiad pryd byddwn yn cydnabod derbyn eich Ffi Aelodaeth. Mae hyd eich Cyfnod Aelodaeth wedi’i nodi ar eich Cerdyn Aelodaeth.
    • Ystyr chi neu eich yw’r person a enwir yn y cais am Aelodaeth.

3 Manteision i Aelodau

3.1 Fel Aelod o Gynllun Aelodaeth Theatr Clwyd, mae gennych hawl i’r canlynol:

3.1.2 2 docyn sinema AM DDIM; 3.1.3 Gostyngiad o 10% yn ein siop, y caffi a’r bar;

3.1.4 Rhaglen ostyngol ar gyfer cynhyrchiadau Theatr Clwyd;

3.1.5 Cael gwybod ymlaen llaw am sioeau sydd i ddod;

3.1.6 Cerdyn Aelodaeth Swyddogol;

3.1.7 Gwahoddiadau i ddigwyddiadau i aelodau yn unig a Lansiadau Tymhorol;

3.1.8 Cipolwg tu ôl i’r llenni yn ein e-gylchlythyr rheolaidd;

3.1.9 Blaenoriaeth wrth archebu.

3.2 Mae’r amodau canlynol yn berthnasol i fanteision yr Aelodau:

3.2.1 Nid oes modd trosglwyddo Cardiau Aelodaeth.

3.2.2 Gweithredir blaenoriaeth wrth archebu ar gyfer digwyddiadau a ddewisir gan Theatr Clwyd yn unol â’i disgresiwn llwyr. Rydym yn cadw’r hawl i eithrio rhai digwyddiadau o gyfnod archebu blaenoriaeth yr Aelodau.

3.2.3 Bydd gan rai gweithgareddau a lleoliadau gyfyngiadau o ran niferoedd ac efallai y gwrthodir mynediad ar unrhyw adeg.

3.2.4 Gellir defnyddio tocynnau am ddim (e.e. i’r sinema) ar gyfer y digwyddiadau / dangosiadau a ddewisir gan Theatr Clwyd; bydd hyn yn dibynnu ar faint o’r tocynnau sydd ar gael. Ni ellir defnyddio tocynnau sinema am ddim ar gyfer rhai dangosiadau byw, arbennig a lloeren.

3.2.5 Ni ellir defnyddio gostyngiadau yn y Siop, y Caffi a’r Bar ar y cyd ag unrhyw gynigion neu ostyngiadau arbennig eraill. Nid yw gostyngiadau’n berthnasol i’r canlynol: postio, talebau rhodd, argraffu ar gais, stampiau, eitemau sêl, tocynnau llyfr, cylchgronau a phapurau newydd, Aelodaeth ychwanegol ac Aelodaeth rhodd, eitemau a werthir gan Theatr Clwyd ar ran Trydydd Parti.

3.2.6 Rhaid i chi ddangos eich Cerdyn Aelodaeth yn ystod pob ymweliad i gael y Manteision Aelodaeth. Rhaid rhoi gwybod am golli Cerdyn Aelodaeth i Theatr Clwyd, sy’n cadw’r hawl i godi ffi resymol am Gardiau Aelodaeth newydd.

3.2.7 Ni ddylech adael i unrhyw un arall ddefnyddio eich Cerdyn Aelodaeth. Gall gadael i rywun arall ddefnyddio eich Cerdyn Aelodaeth arwain at ganslo eich Cerdyn Aelodaeth heb rybudd. Ni roddir ad-daliad am Ffioedd Aelodaeth o dan yr amgylchiadau hyn.

4 Eich manylion

4.1 Am fanylion llawn am sut rydym yn storio ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, edrychwch ar ein polisi preifatrwydd, sydd ar gael i’w lawrlwytho o’n gwefan ni yn www.theatrclwyd.com

5 Ffioedd a Thaliadau Aelodaeth

5.1 Bydd pob Aelod yn talu Ffi Aelodaeth flynyddol. Mae Theatr Clwyd yn cadw’r hawl yn unol â’i disgresiwn llwyr i newid y Ffi Aelodaeth bob blwyddyn.

5.2 Mae eich Aelodaeth yn ddilys ar unwaith o’r diwrnod mae eich Aelodaeth yn cael ei chydnabod gan Theatr Clwyd (ar ôl i Theatr Clwyd dderbyn y Ffi Aelodaeth gyda’r arian wedi clirio) ac fel rheol bydd yn ddilys am 12 mis oni bai, er enghraifft, eich bod wedi prynu Cyfnod Aelodaeth hirach. Os nad ydych yn adnewyddu eich Aelodaeth, bydd yn dod i ben yn awtomatig ar ddiwedd y Cyfnod Aelodaeth, oni bai ei bod yn cael ei hadnewyddu yn unol â chymalau 5.4 neu 5.5 isod.

5.3 Ar ôl i’ch Aelodaeth ddod i ben, ni fyddwch yn Aelod mwyach ac ni fydd gennych hawl i dderbyn unrhyw Fanteision Aelodaeth.

5.4 Adnewyddu gydag arian parod neu gerdyn credyd / debyd: Pan ddaw pob Cyfnod Aelodaeth i ben, bydd Theatr Clwyd yn anfon neges atgoffa atoch chi i adnewyddu, a bydd eich Aelodaeth yn cael ei chanslo oni bai a nes derbynnir Ffi Aelodaeth bellach gennych chi.

5.6 Er mwyn cydymffurfio â chanllawiau CThEM, nid yw Theatr Clwyd yn gallu derbyn sieciau CAF fel taliad am Aelodaeth.

5.7 Mae Theatr Clwyd yn cadw’r hawl yn unol â’i disgresiwn i wrthod neu derfynu Aelodaeth os bydd ymddygiad Aelod, ym marn resymol Theatr Clwyd, yn cael ei ystyried mewn unrhyw ffordd fel ymddygiad sy’n aflonyddu, yn achosi gofid neu’n achosi anhwylustod i Aelodau eraill, unrhyw ymwelydd â Theatr Clwyd, unrhyw aelod o staff Theatr Clwyd, ac unrhyw gyfarwyddwyr, ymddiriedolwyr, noddwyr, cyfranwyr neu gefnogwyr eraill i Theatr Clwyd, neu os yw Aelod yn mynd yn groes i unrhyw rai o’r telerau a’r amodau hyn.

5.8 Yn amodol ar unrhyw hawl statudol i ganslo, nid oes modd ad-dalu eich Ffi Aelodaeth ar ôl i Theatr Clwyd dderbyn y taliad. Os byddwch yn ymuno ar-lein neu dros y ffôn, cewch newid eich meddwl a chanslo eich Aelodaeth ar yr amod eich bod yn dweud wrth Theatr Clwyd o fewn 14 diwrnod i ddyddiad cydnabyddiaeth Theatr Clwyd o’ch Aelodaeth. Cewch wneud hyn drwy gysylltu â ni fel y nodir yn y telerau a’r amodau hyn neu drwy ddefnyddio’r ffurflen ganslo sydd wedi’i hatodi gyda’r telerau a’r amodau hyn. Bydd Theatr Clwyd yn rhoi ad-daliad llawn i chi o unrhyw Ffi Aelodaeth sydd wedi’i thalu (oni bai eich bod wedi defnyddio manteision yr Aelodaeth yn ystod yr 14 diwrnod yma – os felly, byddwch yn cydnabod eich bod yn gyfrifol am gyfran o’r Ffi Aelodaeth mewn perthynas â’r gwasanaethau rydym wedi’u cyflenwi i chi yn ystod y cyfnod hwn ac felly
ni fyddwch yn derbyn ad-daliad llawn o’r swm a dalwyd). Sylwer nad yw’r hawl canslo cynnar yma’n berthnasol os ydych chi’n ymuno wyneb yn wyneb.

5.9 Nid oes modd trosglwyddo hawliau Aelodaeth.

5.10 Daw hawliau Aelodaeth i ben pan fydd Aelod yn marw neu pan fydd unigolyn yn rhoi’r gorau i fod yn Aelod.

6 Cyhoeddiadau a Deunyddiau Eraill

6.1 Oni bai y nodir yn wahanol, mae Theatr Clwyd yn cadw’r holl hawlfraint a’r holl hawliau eraill cysylltiedig â chyhoeddiadau a deunyddiau a gyflenwir gan Theatr Clwyd. Ni chaiff Aelodau atgynhyrchu, trosglwyddo, dosbarthu, gwerthu nac ecsbloetio’n fasnachol y deunyddiau hyn heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Theatr Clwyd neu i’r graddau y caniateir hynny yn unol â’r gyfraith.

7 Atebolrwydd

7.1 Mae Theatr Clwyd yn atebol i chi am Golled neu Ddifrod Rhagweladwy sy’n codi o dorri contract Theatr Clwyd gyda chi neu ein hesgeulustod ond nid fel arall.

7.2 Yn amodol ar gymal 6.3, mae atebolrwydd Theatr Clwyd i chi’n gyfyngedig i swm eich Ffi Aelodaeth flynyddol.

7.3 Nid oes unrhyw beth yn y telerau a’r amodau hyn yn eithrio neu’n cyfyngu ar atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan esgeulustod Theatr Clwyd neu am dwyll neu gamgynrychiolaeth dwyllodrus.

8 Cyffredinol

8.1 Nid yw methiant neu oedi ar ran Theatr Clwyd i ymarfer neu orfodi unrhyw hawl yn y telerau hyn yn cyfateb i ildio hawliau o’r fath.

8.2 Mae Theatr Clwyd yn cadw’r hawl i wneud y canlynol:

8.2.1 Gwneud mân addasiadau i’r telerau a’r amodau hyn er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn deddfau perthnasol a gwneud mân addasiadau a gwelliannau technegol, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol i chi. Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eich Manteision Aelodaeth, neu

8.2.2 Gwneud newidiadau mwy sylweddol i’r telerau a’r amodau hyn, yn unol â’i disgresiwn llwyr ar unrhyw adeg, gan gynnwys gwneud newidiadau i’r Manteision Aelodaeth. O dan yr amgylchiadau hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newid arfaethedig ac wedyn cewch gysylltu â ni i ganslo eich Aelodaeth a derbyn ad-daliad o’r rhannau heb eu defnyddio o’ch Ffi Aelodaeth cyn i’r newidiadau ddod i rym.

8.3 Llywodraethir y telerau a’r amodau hyn gan y gyfraith a byddant yn cael eu dehongli yn unol â’r gyfraith hefyd ac, os bydd unrhyw anghydfod yn codi o’r telerau a’r amodau hyn a / neu eich Aelodaeth, rydych chi’n cytuno â Theatr Clwyd i ildio i awdurdodaeth lwyr y llysoedd.

8.4 Rhaid i bob Aelod fod yn 18 oed neu’n hŷn.

8.5 Mae Theatr Clwyd yn cadw’r hawl i gael gwared ar fanteision yn unol â’n disgresiwn er mwyn bodloni gofynion CThEM neu fel arall i gydymffurfio ag unrhyw newid yn y gyfraith.

8.6 Gallwch gysylltu â ni drwy ein ffonio ar +44(0)1352 701868 neu drwy anfon e-bost i members@theatrclwyd.com neu drwy ysgrifennu atom ni yn yr Adran Ddatblygu, Aelodaeth, Theatr Clwyd, Lôn Raikes, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1YA.

8.7 Os oes raid i Theatr Clwyd gysylltu â chi, byddwn yn gwneud hynny drwy eich ffonio neu drwy ysgrifennu atoch chi gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost neu’r cyfeiriad post rydych chi wedi’i roi i ni yn eich cais am Aelodaeth.

9 Canslo
Os hoffech chi ganslo eich Aelodaeth ar unrhyw adeg, cewch wneud hynny drwy gyflwyno cais ysgrifenedig i’r Adran Ddatblygu, Aelodaeth, Theatr Clwyd, Lôn Raikes, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1YA, neu ar e-bost i members@theatrclwyd.com, gan gynnwys y manylion canlynol:

Yr wyf i/Yr ydym ni [*] trwy hyn yn rhoi rhybudd fy mod i/ein bod ni [*] yn canslo fy/ein [*] Aelodaeth o Gynllun Aelodaeth Theatr Clwyd; a archebwyd ar [*]/dderbyniwyd ar [*]; Enw’r Aelod(au); Cyfeiriad yr Aelod(au); Rhif(au) Aelodaeth; Llofnod yr Aelod(au); Dyddiad. [*] Rhaid dileu fel sy’n briodol.

Twitter
Facebook
Google+
Instagram
Mail
  • Theatr Clwyd