Ysgolion

Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion lleol, gan gyflwyno prosiectau cyffrous ac arloesol i gynorthwyo dysgu.
Gwyl Ysgolion
Rydyn ni'n cynnal gŵyl flynyddol i Ysgolion Sir y Fflint gymryd rhan ynddi. Mae hyn fel arfer yn digwydd ym mis Gorffennaf ac mae'n gyfle gwych i'ch ysgol berfformio ar ein llwyfannau.
Teithiau a Sgyrsiau
Gallwn gynnig teithiau i fyfyrwyr o amgylch y theatr a threfnu iddynt sgwrsio gydag aelodau o'm staff am eu gwaith.
Mae pob cynhyrchiad yn Theatr Clwyd yn cynnwys sgwrs ar ôl y sioe gyda’r cast a’r cyfarwyddwr, gyda chyfle i fyfyrwyr holi cwestiynau am y sioe mae'nt wedi’i gweld, y pynciau a godwyd ac am weithio yn y theatr.
Yn Trefnu Ymweliad?
Ydych chi’n trefnu ymweliad i’r theatr? Angen cefnogaeth ychwanegol? Efallai hoffech chi ehangu profiad eich disgyblion gyda thrafodaeth ar ôl y sioe gyda’r cast, neu gwrdd rhai o dîm Theatr Clwyd? Cysylltwch am ragor o wybodaeth i helpu i wneud eich ymweliad yn un arbennig iawn!
Mwy?
Emma King | Cydlynydd Ymgysylltu Creadigol
emma.king@theatrclwyd.com