Wythnos Profiad Gwaith Blynyddoedd 10 ac 11 2026
Dydd Llun 22ain Mehefin – Dydd Gwener 26ain Mehefin 2026
Cyfle i archwilio'r byd y tu ôl i'r llenni a darganfod pob agwedd ar ein sefydliad celfyddydau. O greu setiau i farchnata'r sioe, byddwch yn datgelu rhai o’r cyfrinachau o ran sut mae theatr yn gweithio…
Eisiau darganfod beth sydd ei angen i ddod â sioe yn fyw? Dyma'ch cyfle chi!
- Ymuno â gweithdai ymarferol dan arweiniad pob tîm
- Cyfarfod gweithwyr proffesiynol y theatr
- Treulio amser gyda phobl ifanc eraill sydd â diddordeb yn y theatr a gwneud ffrindiau newydd
- Archwilio'r hud y tu ôl i gynhyrchiad Theatr Clwyd o Atlantis
Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol ar gyfer hyn, dim ond bod yn fodlon rhoi cynnig ar rywbeth newydd.
Yn eich llythyr eglurhaol, dywedwch wrthym pam mae gennych ddiddordeb yn Theatr Clwyd a'r cyfle hwn
Gellir cyflwyno cais drwy glicio'r botwm 'Ymgeisio' isod
Os hoffech chi wneud cais mewn fformat arall, sef fideo, anfonwch eich cais i people@theatrclwyd.com
Ceisiadau yn cau Dydd Llun 9fed Ionawr
Gweithdai Recriwtio:
Dydd Iau 5ed Chwefror - 5-7pm a 7-9pm
Dydd Iau 12fed Chwefror - 5-7pm
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod erbyn dydd Gwener 20fed Chwefror
Am fwy o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol i drafod y rôl, cysylltwch â Steve.Luckens@theatrclwyd.com os gwelwch yn dda.
My week was amazing! I've found out so much more about how the theatre industry works, the different teams involved and I have made some brilliant friends! I really enjoyed set construction session. I recommend applying!Years 10 Student, June 2023
Agor oriel o luniau

