Lleoliadau dan hyfforddiant mewn Cynllunio Setiau a Chynllunio Goleuo a Fideo ar gyfer crëwyr theatr Byddar, anabl a / neu niwroamrywiol sydd â chysylltiad â Chymru.


Lleoliadau Dan Hyfforddiant ar Under Milk Wood

Lleoliadau dan hyfforddiant mewn Cynllunio Setiau a Chynllunio Goleuo a Fideo ar gyfer crëwyr theatr Byddar, anabl a / neu niwroamrywiol sydd â chysylltiad â Chymru.

Mae Partneriaeth Craidd yn gydweithrediad uchelgeisiol ledled y sector ar draws pum sefydliad theatr yng Nghymru sy'n ymroddedig i drawsnewid cynrychiolaeth DDN (Byddar, anabl a niwroamrywiol) mewn theatr prif ffrwd. Theatr Clwyd yw'r partner arweiniol yn y fenter hon a'r cynhyrchiad sydd i ddod o Under Milk Wood fydd y cynhyrchiad cyntaf yn y bartneriaeth.

Mae’n bleser cael cynnig cyfleoedd lleoliad mewn dau faes o'r cynhyrchiad ar gyfer crëwyr theatr talentog - Lleoliad Cynllunio Setiau Dan Hyfforddiant a Lleoliad Cynllunio Goleuo a Fideo Dan Hyfforddiant.

Mae’r cynnig ar agor i grëwyr theatr (gyda ffocws penodol ar Gynllunwyr Setiau a Chynllunwyr Goleuo / Fideo) sydd â chysylltiadau cryf â Chymru oherwydd eu bod wedi'u geni, eu magu neu'n byw ar hyn o bryd yng Nghymru ac sy'n uniaethu fel naill ai Byddar, anabl a / neu Niwroamrywiol. Byddant yn elwa o becyn cefnogi unigryw a phwrpasol yn Theatr Clwyd drwy'r fenter Craidd.

Byddwn yn cynnig cyfle i'r crëwyr theatr yma ymgysylltu'n ddwfn â'n cynhyrchiad ni yn 2026 o Under Milk Wood gan Dylan Thomas, dan gyfarwyddyd Kate Wasserberg. Bydd cyfle hefyd i'r crëwyr theatr archwilio eu creadigrwydd gan drafod gyda'r tîm Creu Theatr yn Theatr Clwyd.

Bydd y lleoliadau dan hyfforddiant yma’n llawn amser yn Theatr Clwyd o 26ain Ionawr i 20fed Mawrth 2026. Disgwylir i chi fod yn Theatr Clwyd yn llawn amser yn ystod y cyfnod yma.

I gael gwybodaeth fanylach am y lleoliad a'r broses ymgeisio, edrychwch ar y Pecynnau Gwybodaeth isod.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais - ac oes gennych chi gwestiynau?

Edrychwch ar y Cwestiynau Cyffredin isod.


Adnoddau


Sesiwn Holi ac Ateb

Holi ac Ateb Cynllunio Goleuo a Fideo – 6pm – 8pm (amser y DU) ar ddydd Llun 20fed Hydref

Bydd y sesiwn yma gydag aelod o dîm Craidd, Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd, Cynhyrchydd Under Milk Wood Jenny Pearce ac aelod o'r tîm creadigol ar y cynhyrchiad. Bydd yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau am y lleoliad a'r broses ymgeisio.

I gofrestru ar gyfer y sesiwn, anfonwch e-bost i stiwdio@theatrclwyd.com a byddwn yn cadarnhau eich lle ac yn anfon y ddolen atoch chi.



Sut i Ymgeisio

Mae'r pecynnau gwybodaeth yn cynnwys –

• Cyflwyniad i'r Prosiect a'r Lleoliad

• Amserlen y Lleoliad

• Manylion taliad a chefnogaeth

• Meini Prawf Hanfodol a Dymunol ar gyfer y Lleoliad

• Sut i wneud cais

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma gellir dod o hyd i hwn hefyd fel Fersiwn Hawdd ei Ddarllen a Fersiwn Pur (ar gyfer darllenwyr sgrin)

Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio - 6pm ar ddydd Llun 3ydd Tachwedd 2025

Dylid e-bostio pob cais i stiwdio@theatrclwyd.com erbyn y dyddiad cau.


Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Craidd?

Mae Craidd yn gydweithrediad uchelgeisiol ledled y sector ar draws pum sefydliad theatr yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i drawsnewid cynrychiolaeth DDN (Byddar, anabl a niwroamrywiol) mewn theatr brif ffrwd.

Mae Craidd yn gydweithrediad rhwng pum sefydliad yng Nghymru: Theatr Clwyd, Theatr y Sherman, Celfyddydau Pontio, Theatr y Torch, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ei genhadaeth yw gwella cynrychiolaeth brif ffrwd, ar gyfer a gyda chrëwyr theatr Byddar, anabl a niwroamrywiol ledled Cymru. Mae hefyd yn gobeithio ysgogi newid cadarnhaol yn y sefydliadau partner dan sylw yn ogystal â'r sector theatr ehangach.

Theatr Clwyd yw'r prif bartner yn y fenter hon a'r cynhyrchiad sydd i ddod o Under Milk Wood fydd y cynhyrchiad cyntaf yn y bartneriaeth. Wedyn bydd y cynhyrchiad yn teithio i Theatr y Sherman, Celfyddydau Pontio, a Theatr y Torch.

Beth am fynediad?

Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnwn i chi roi gwybod i ni am unrhyw gymorth mynediad y byddwch ei angen i fynychu'r cyfweliadau. Ni fyddwn yn edrych ar y manylion hyn wrth lunio'r rhestr fer a dim ond os cewch eich rhoi ar y rhestr fer fyddan nhw’n cael eu darllen. Gallwch naill ai ateb y cwestiwn neu ddarparu Dogfen Mynediad.

Os bydd y lleoliad yn cael ei ddyfarnu i chi, byddwn yn gweithio gyda chi i gefnogi eich anghenion mynediad. Byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen "Gweithio Gyda Fi" ac, os oes gennych chi un, darparu Dogfen Mynediad. Byddwn yn gweithio gyda chi i'ch helpu i deimlo'n gyfforddus a gwneud eich gwaith gorau.

Os ydych chi'n derbyn Mynediad i Waith, byddem yn disgwyl i chi ddefnyddio beth bynnag sy’n cael ei ddarparu i chi ar hyn o bryd yn ystod y lleoliad.

Os yw’r gofynion mynediad yn golygu nad yw'r gyllideb sy’n cael ei darparu yn ddigonol, byddwn yn eich cynorthwyo i wneud hawliad am Fynediad i Waith.

Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth fanylach am yr hyn ddylech chi ei baratoi ar gyfer y diwrnod, gan gynnwys anfon cwestiynau’r cyfweliad ymlaen llaw. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno ar ffurf ysgrifenedig, ond bydd fformatau eraill ar gael ar gais.

Oes angen I mi fod wedi darllen Under Milk Wood cyn ymgeisio?

Nid yw hynny'n gwbl angenrheidiol ond gallai fod yn ddefnyddiol ei ddarllen ac edrych rhyw ychydig arno i weld a yw'n sbarduno eich dychymyg yn greadigol. Mae mwy o wybodaeth am Under Milk Wood ar gael yn https://en.wikipedia.org/wiki/...

Oes angen i mi fyw yn Yr Wyddgrug?

Nac oes, mae'r cyfle yma ar agor i unrhyw grëwyr theatr o Gymru neu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Byddwch yn cael cyllideb tuag at dreuliau teithio a chynhaliaeth. Mae'r gyllideb yma’n seiliedig ar gyfraddau Equity / UK Theatre. Byddwn yn eich cefnogi chi i ddod o hyd i lety os oes angen.

Sut ydych chi'n diffinio 'proffesiynol' o ran profiad?

At ddibenion y cyfle yma, mae "proffesiynol" yn cael ei ddiffinio fel derbyn taliad am eich gwaith neu bobl wedi talu am weld eich gwaith.

Beth yw'r broses o lunio'r rhester fer a sut mae pobl yn cael eu dewis?

Bydd pob cais yn cael ei ystyried a'i sgorio gan dri unigolyn ar wahân - aelod o dîm Craidd, aelod o'r Teulu Creu Theatr yn Theatr Clwyd ac aelod o'r Uwch Dîm Arwain yn Theatr Clwyd a fydd yn sgorio yn erbyn pob elfen o'r "Meini Prawf Hanfodol" yn y Pecyn Gwybodaeth. Bydd y sgoriau allan o 5.

Os yw’r ymgeiswyr wedi cael yr un sgôr, bydd y panel yn symud ymlaen at y “Meini Prawf Dymunol” i lywio’r broses o lunio’r rhestr fer.

Wedyn bydd 4 ymgeisydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad.

Beth fydd yn digwydd yn y cyfweliad?

Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, cewch eich gwahodd i ddod i Theatr Clwyd wyneb yn wyneb am gyfweliad.

Ar gyfer y Lleoliad Cynllunio, bydd y cyfweliadau’n cyd-daro â’r Cyfarfod Cynllunio Cerdyn Gwyn. Bydd hyn yn galluogi’r ymgeiswyr ar y rhestr fer i arsylwi’r cyfarfod yma a chael cyflwyniad byr i’r cynhyrchiad.

Bydd y cyfweliad tua 45 munud o hyd a bydd gydag aelod o'r Tîm Creadigol ar y cynhyrchiad, aelod o'r Tîm Creu yn Theatr Clwyd, uwch aelod o Theatr Clwyd ac aelod o dîm Craidd.

Byddwn yn anfon y cwestiynau atoch chi ymlaen llaw – bydd pawb yn cael yr un cwestiynau. Bydd cyfle hefyd i chi ofyn cwestiynau. Bydd y cyfweliad yn Saesneg.

Bydd Theatr Clwyd yn trefnu amrywiaeth o gymorth mynediad ar draws y cyfweliadau, ond rydyn ni’n ymwybodol y bydd arnoch chi angen mwy o gymorth pwrpasol efallai, i gael mynediad i'r diwrnod.

Bydd Theatr Clwyd yn talu am ac yn trefnu bod digon o ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, galluogwyr creadigol a disgrifyddion sain ar gael yn y gofod, gan gynnwys yn y sesiwn unigol os oes angen.

Ydw i'n cael dod  fy mherson cefnogi fy hun gyda mi?

Bydd Theatr Clwyd yn trefnu cymorth mynediad amrywiol ar draws y cyfweliadau ar gyfer lleoliadau, ond rydyn ni’n ymwybodol y bydd arnoch chi angen mwy o gymorth pwrpasol un i un efallai, gydag unigolyn dibynadwy, i gael mynediad i'r diwrnod. Byddwn yn trafod hynny gyda chi pan fyddwn yn eich gwahodd chi i gyfweliad.

Bydd Theatr Clwyd yn talu am ac yn trefnu bod digon o ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, galluogwyr creadigol a disgrifyddion sain ar gael yn y gofod.

What happens at a white card design meeting?

A White Card Design Meeting is a crucial design meeting where the creative team, including the director, designers, and technical staff, review a white card model of the set. This model helps them visualize the show's space, assess potential issues, and discuss the design's overall feel and practicality, including budget, timescale, and space availability.