Ar y llinell amser yma byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am holl ddatblygiadau diweddaraf yr adeilad.
2025
Yr adeilad wedi ei ailddatblygu yn agor
2023
Rhagfyr - Pantomeim Roc a Rôl yn cael ei gynnal yn y Babell Fawr
Gorffennaf - 12% o’r prosiect cyffredinol wedi'i gwblhau ac ar amser
955 metr ciwbig o wastraff wedi’i waredu a hyd yma, oherwydd ein cynllun rheoli gwastraff, nid oes unrhyw wastraff wedi mynd i safleoedd tirlenwi
Crugio yn dechrau ar gyfer yr estyniad ym mlaen yr adeilad
Gosod sylfeini ar gyfer y gweithdy yng nghefn Theatr Clwyd
Mehefin - Cael gwared ar flaen yr adeilad
Ymweliad gan Weinidog Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden
![](https://d236ott6dc2ku1.cloudfront.net/_imager/files/Press/2023/2204427/Dawn-Bowden-Visit-2-Credit-Brian-Roberts_d81014be75156f7fb16123a6b350b4d2.jpg)
Mai - Cael gwared ar y to lle bydd yr ystafell ymarfer uchder dwbl newydd
Claddu Capsiwl Amser, penodi Kate Wasserberg yn Gyfarwyddwr Artistig
Ebrill - Y brif theatr yn cau a’r seddi’n cael eu tynnu (Gallwch enwi un o’r seddi yn y tri gofod awditoriwm.)
Mawrth - Cynhyrchiad terfynol yn y brif theatr
Ionawr - Gilbert Ash yn dechrau ar y safle
2022
Tachwedd Penodi Gilbert Ash yn Brif Gontractwr
![](https://d236ott6dc2ku1.cloudfront.net/_imager/files/Capital/Redevelopment-Pages/2220316/TC-Foyer_d81014be75156f7fb16123a6b350b4d2.jpg)
2021
Tachwedd -Fe wnaethom symud i gyfleusterau theatr dros dro
Enillydd Theatr Ranbarthol y Flwyddyn The Stage
Trosglwyddo i elusen annibynnol o berchnogaeth Cyngor Sir y Fflint
2020
Cyfnod clo, Theatr Clwyd yn dod yn fanc gwaed a phob prosiect cymunedol yn symud ar-lein.
Theatr Clwyd yn dod yn gyfrifol am addysg cerddoriaeth ar draws Sir y Fflint
![](https://d236ott6dc2ku1.cloudfront.net/_imager/files/759118/The-Stage-Award-Liam-Tamara-Credit-Theatr-Clwyd-small_d81014be75156f7fb16123a6b350b4d2.jpg)
2018
Home, I’m Darling yn ennill Gwobr Olivier
2017
Eira yn disgyn drwy nenfwd y llawr uchaf
2016
Peipen ddŵr yn byrstio, gan orlifo'r ystafelloedd newid
Penodi Liam Evans-Ford yn Gyfarwyddwr Gweithredol
![](https://d236ott6dc2ku1.cloudfront.net/_imager/files/2219901/011-Katherine-Parkinson-as-Judy-and-Richard-Harrington-as-Johnny-in-Home-Im-Darling-c-Manuel-Harlan_d81014be75156f7fb16123a6b350b4d2.jpg)
2015
Penodi Tamara Harvey yn Gyfarwyddwr Artistig
Celfyddydau o’r Gadair Freichiau yn dechrau
2014
Under Milk Wood yn mynd ar daith ledled y DU i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas
2010
Arolwg yn canfod bod yr adeilad yn agosáu at ddiwedd ei oes, Justice in a Day yn dechrau - addysgu pobl ifanc am beryglon troseddu;
Darnau wedi’u cyfarwyddo gan Kate Wasserberg yn trosglwyddo i 59E59, Efrog Newydd
2008
Owen Teale yn serennu yn Macbeth
![](https://d236ott6dc2ku1.cloudfront.net/_imager/files/2219905/UMW-2_d81014be75156f7fb16123a6b350b4d2.jpg)
2007
A Midsummer’s Night’s Dream, smwddio dail ar gyfer y cynhyrchiad yn achosi i’r trydan chwythu
Memory yn trosglwyddo i 59E59 Efrog Newydd
2006
Y Tywysog Charles a Camilla yn ymweld ac yn gwrando ar fyfyrwyr yn cymryd rhan yn Rhaglen Rhywogaethau Mewn Perygl Gwasanaeth Cerddoriaeth Sir y Fflint
1997
Penodi Terry Hands yn Gyfarwyddwr Artistig
1994
Anthony Hopkins yn cyfarwyddo ac yn serennu yn August
![](https://d236ott6dc2ku1.cloudfront.net/_imager/files/2219934/AH1_54b282fb00dd23aa2201cd1b40182ab7.gif)
1992
Penodi Helena Kaut-Howson yn Gyfarwyddwr Artistig
1987
Vanessa Redgrave a Timothy Dalton yn serennu yn Anthony and Cleopatra
1985
Penodi Toby Robertson yn Gyfarwyddwr Artistig
1976
Agor Theatr Clwyd gan y Frenhines Elizabeth II, penodi George Roman yn Gyfarwyddwr Artistig
![](https://d236ott6dc2ku1.cloudfront.net/_imager/files/2219469/Photo-at-opening_d81014be75156f7fb16123a6b350b4d2.jpg)