Theatr Clwyd yn dathlu llwyddiant blwyddyn gyntaf o aelodaeth gorfforaethol.
See dates and times 28 Ebr 2023
News Story
Mae busnesau lleol a chenedlaethol yn mwynhau cyfres newydd sbon o fuddion ym mlwyddyn gyntaf yr aelodaeth gorfforaethol yn Theatr Clwyd, a lansiwyd gan y theatr wrth iddi baratoi ar gyfer ei hailddatblygiad cyfalaf sylweddol. Gall aelodau newydd ddewis haen syโn addas iddyn nhw aโu cyllidebau, yn amrywio o ยฃ500 i ยฃ5,000, cael mynediad at docynnau, digwyddiadau unigryw, profiadau tu รดl iโr llenni, cynnal digwyddiadau a chyfleoedd hysbysebu, yn ogystal รขโr cyfle unigryw i fynd ar y safle wrth i'r gwaith adeiladu fynd rhagddo, ac wrth i haenau o'r adeilad newydd gael eu datgelu.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae naw o fusnesau wedi ymuno fel aelodau ar draws y cynllun haenau, gyda phedwar busnes arall yn y broses. Mae'r busnesau hyn yn ymuno ag ystod eang o aelodau eraill, gan gynnwys CBI Insurance, Leonard Curtis, Azets, Gap Personnel, Hope Mountain Retreat, Insight 6, Thursday's Child Coaching & Consulting, Aaron & Partners, Bad Wolf a Chilly Cow.
Mae Gwestyโr Beaufort Park yn Aelod Aur ac wedi mabwysiaduโr cynllun yn gynnar. Yn gynharach yn ystod y mis yma, cyflwynodd aelod Bwrdd Theatr Clwyd, Siobhan Jones, eu tystysgrif 'buddsoddwr yn y gymuned leol' i'r Rheolwr Cyffredinol, Mark Small, gan anrhydeddu'r ymrwymiad maent wedi'i wneud gyda'u cefnogaeth, gan alluogi ein gwaith ymgysylltu i barhau a thyfu.

0 Stars
Rydyn niโn teimlo ei bod yn bwysig buddsoddi yn ein hatyniadau lleol a'n cymuned. Mae Theatr Clwyd yn ymgorfforiโr ddau beth yma gyda chalon fawr. Rydyn ni eisiau dangos cefnogaeth i'r theatr, ac rydyn niโn deall y bydd eu hailddatblygiad yn denu llu o ymwelwyr newydd i'r ardal. Yn gyfnewid am ein cefnogaeth ni, drwy aelodaeth, rydyn niโn gwerthfawrogiโr gwaith gawn ni drwyโr theatr a hir y parhaed hynny!Mark Small, Rheolwr Cyffredinol
0 Stars
Rydyn ni mor falch oโr diddordeb gan sefydliadau corfforaethol sydd eisiau cysylltu รข Theatr Clwyd. Mae ein cynlluniau aelodaeth niโn cynnig buddion anhygoel a fydd yn diddanu cleientiaid presennol, darpar gleientiaid a staff gan sicrhau effaith sylweddol hefyd ar gyfer eu buddsoddiad yn ein siwrnai ni. Rydw iโn mwynhau cyfarfod รขโn holl aelodau corfforaethol, yn enwedig ar amser mor brysur iโr theatr wrth iโw dyfodol ddatblygu..Siobhan Jones, Aelod o Fwrdd Theatr Clwyd
Maeโr Brecwastau Busnes syโn cael eu cynnal yn Theatr Clwyd yn ffordd wych o ddarganfod mwy am Aelodaeth Gorfforaethol yn ogystal รข rhwydweithio gyda busnesau eraill o Ogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Mewn brecwastau blaenorol mae Theatr Clwyd wedi rhannu diweddariad ar gynlluniau a gweithgarwch ymgysylltu, yn ogystal รข chroesawu siaradwyr gwadd gan gynnwys Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, Ambition North Wales a Joanna Swash, Prif Swyddog Gweithredol Moneypenny.
Maeโr brecwast nesaf yn cael ei gynnal ar 18 Mai. Lawrence Wood (Principal at Coleg Llandrillo โ the largest FE provider in Wales) and Professor Maria Hinfelaar ( BA, MA, PGCE, PhD, FLSW, Vice-Chancellor and Chief Executive at Wrexham Glyndลตr University) confirmed to speak. Cysylltwch i archebu eich lle gan fod y llefydd yn gyfyngedig.
I gael gwybod mwy am aelodaeth gorfforaethol neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu brecwast busnes, cysylltwch รข Sarah Hutchins ar sarah.hutchins@theatrclwyd.com neu Cliciwch Yma