News Story

Rydyn ni’n hynod falch o fod yn lansio Cynllun Cyfarwyddwyr Insight.
Mae'r Cynllun hwn yn rhoi cyfle i un cyfarwyddwyr lleol, yn gynnar ar ei siwrnai, "arsylwi" ymarferion ar gyfer cynhyrchiad sydd i ddod gan Theatr Clwyd.
Yn ddiweddar, fe wnaethon ni dreialu'r Cynllun ar Tick, tick... Boom! a roddodd gyfle unigryw i'r cyfarwyddwr Em Dulson –
"Mae Cynllun Cyfarwyddwyr Insight wedi bod yn gyfle anhygoel i mi ddeall mwy amdanaf i fy hun fel person creadigol a chael gwybodaeth bellach am amgylchedd gwaith proffesiynol. Mae cynlluniau fel hyn yn profi y gallwch chi oroesi fel artist Cymreig, gan fyw a gweithio yng Nghymru. Mae'n wirioneddol galonogol teimlo bod pobl eisiau cefnogi eich gyrfa."
Am Cynllun Cyfarwyddwyr Insight.
Mae’r cyfranogwr yn cael ei wahodd i ymarferion bob dydd Llun (neu ar ddiwrnod arall drwy gytundeb o’r ddwy ochr) drwy gydol y cyfnod ymarfer, yr ymarfer technoleg ac i mewn i'r sioeau ymlaen llaw. Mae hyn yn ei alluogi i ddilyn y broses o ddod â'r gwaith i'n llwyfannau ni a siwrnai’r cynhyrchiad. Dydi’r cyfranogwr ddim yn gyfarwyddwr cynorthwyol a dim ond arsylwi'r broses yw’r nod. Mae'r Cynllun hefyd yn rhoi cyfle i’r cyfranogwr ddechrau (neu barhau â) deialog gyda'r theatr a sicrhau dealltwriaeth o greu gwaith ar gyfer ein gofod ni.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus berthynas fentora hefyd gyda Kate Wasserberg, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd, a Suzanne Bell, Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd, a bydd yn cael tocynnau i weld y cynhyrchiad. Mae hefyd yn cael deialog gyda'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar y cynhyrchiad.
Gwahoddir yr ymgeisydd llwyddiannus i greu "dyddiadur" neu "flog" am ei brofiad - mae hyn i gefnogi ei ddysgu adlewyrchol a'i ddatblygiad, i ystyried sut gall ddefnyddio’r hyn mae wedi’i ddysgu yn ei arfer ei hun a gellir ei ddefnyddio fel adnodd i siarad am y cynhyrchiad.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu bodloni’r canlynol:
Mae Cynllun Cyfarwyddwyr Insight ar agor i unrhyw un dros 18 oed sydd mewn cam cynnar yn ei yrfa. Ni ddylai fod wedi cyfarwyddo’n broffesiynol – ond efallai ei fod wedi creu gwaith ar lefel ymylol, fel myfyriwr, fel rhan o theatr ieuenctid neu drwy hyfforddiant arall.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ffi o £1,050 ar gyfer Cynllun Cyfarwyddwyr Insight - mae hyn yn cyfateb i £150 y dydd. Does dim cyllideb i dalu am deithio na chynhaliaeth felly dim ond i artistiaid lleol mae ar agor.
Ar gyfer y Cynllun yma, rydym yn diffinio "lleol" fel rhywun sydd wedi'i leoli yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych neu Wrecsam.
Sut i wneud cais:
Gofynnwn i bobl wneud cais am un cynhyrchiad yn unig – ystyriwch pa gynhyrchiad neu ba gyfarwyddwr y byddech chi'n elwa fwyaf o gael cyfle i'w arsylwi.
Mae manylion am y cynyrchiadau, y cyfarwyddwyr a’r dyddiadau ymarfer wedi’u rhestru isod.
Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau yw:
Snake In the Grass: Llun 14 Gorffennaf
The Red Rogue of Bala: Llun 1 Medi
Cinderella The Rock 'n' Roll Panto: Llun 22 Medi
I wneud cais, cyflwynwch CV neu fywgraffiad cyfarwyddo cyfredol a mynegiant byr o ddiddordeb (dim mwy na 300 gair) sy'n amlinellu pam fod gennych ddiddordeb mewn arsylwi'r broses ar y cynhyrchiad hwn a'r cyfarwyddwr penodol hwn a'r cwestiynau sydd gennych chi wrth ddod i mewn i'r broses hon.
Dylid anfon ceisiadau at: stiwdio@theatrclwyd.com
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y cyfle hwn, cysylltwch â Suzanne Bell ar stiwdio@theatrclwyd.com am ragor o wybodaeth.
Cynyrchiadau Sydd I Ddod
Snake in the Grass
gan Alan Ayckbourn, wedi’i gyfarwyddo gan Francesca Goodridge.
Drama gyffro dywyll a chomig am deulu, cyfrinachau a dwyn perswâd.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynhyrchiad ar gael yn
https://www.theatrclwyd.com/event/snake-in-the-grass
Francesca Goodridge
Mae Francesca yn gyfarwyddwr theatr dosbarth gweithiol o Gymru ac yn gyn-Gyfarwyddwr Artistig Cyswllt Theatr Clwyd.
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd mai hi fydd Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr y Sherman, Caerdydd.
Yn 2026 bydd yn cyfarwyddo cynhyrchiad cyntaf y Welsh National Theatre, Our Town, gyda Michael Sheen yn serennu. Ar hyn o bryd mae hi'n gyd-gyfarwyddwr ar adfywiad Nye gan Tim Price ochr yn ochr â Rufus Norris ar gyfer The National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Mae Francesca yn creu theatr amlddisgyblaethol, an-naturiolaidd sy'n hyrwyddo lleisiau heb eu clywed. Mae ganddi ddiddordeb mewn straeon bywyd real rhyfeddol gan bobl bob dydd. Mae hi'n mwynhau gweithio gydag ysgrifennu newydd a’r clasuron wedi’u hailddychmygu ac mae ei gwaith hi fel rheol yn ymgorffori cerddoriaeth a symudiad.
Mae rhagor o wybodaeth am Francesca ar gael yn https://www.unitedagents.co.uk...
Dydd Llun 14eg Gorffennaf | Dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau ar gyfer Snake in the Grass |
Dydd Iau 17eg Gorffennaf | Gwahodd y 4 ymgeisydd ar y rhestr fer i gyfweliad ar-lein |
Dydd Llun 21ain Gorffennaf | Cyfweliadau gyda’r 4 ymgeisydd ar y rhestr fer |
Dydd Mercher 23ain Gorffennaf | Hysbysu’r ymgeisydd llwyddiannus |
Dydd Llun 4ydd Awst | Wythnos sefydlu |
Dydd Llun 11eg Awst | Ymarferion wythnos un |
Dydd Llun 18fed Awst | Ymarferion wythnos dau |
Dydd Mawrth 26ain Awst (oherwydd gŵyl y banc) | Ymarferion wythnos tri |
Dydd Llun 1af Medi | Ymarferion wythnos pedwar |
Dydd Llun 8fed Medi | Arsylwi’r ymarfer technoleg |
Dydd Llun 15fed Medi | Arsylwi’r ymarfer gwisgoedd / sioe ymlaen llaw |
Dydd Gwener 19eg Medi | Mynychu noson y wasg |
The Red Rogue of Bala
gan Chris Ashworth-Bennion, wedi'i gyfarwyddo gan Dan Jones.
Première byd o gomedi hynod ddoniol a chyflym yng nghalon Sir Ddinbych.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynhyrchiad ar gael yn https://www.theatrclwyd.com/ev...
Dan Jones
Mae Dan yn gyfarwyddwr Cymreig arobryn sy’n Gyfarwyddwr Artistig The Other Room yng Nghaerdydd.
Mae’n gyfarwyddwr llwyfan yn bennaf, gydag enw da am fentro gyda thalent newydd. Disgrifir gwaith Dan yn aml fel gwaith tynn, rhythmig a diffuant. Ar ôl gweithio’n bennaf ar ysgrifennu newydd – gydag angerdd penodol dros ffyrdd newydd o gyflwyno dramâu newydd Cymraeg a dwyieithog – mae ymarfer creadigol Dan hefyd yn cynnwys cynhyrchu, addysgu a chyfarwyddo ar gyfer y sgrin a’r radio.
Mae rhagor o wybodaeth am Dan ar gael yn https://www.danjones.wales/
Dydd Llun 1af Medi | Dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau ar gyfer Red Rogue of Bala |
Dydd Iau 4ydd Medi | Gwahodd y 4 ymgeisydd ar y rhestr fer i gyfweliad ar-lein |
Dydd Llun 8fed Medi | Cyfweliadau gyda’r 4 ymgeisydd ar y rhestr fer |
Dydd Mercher 10fed Medi | Hysbysu'r ymgeisydd llwyddiannus |
Dydd Llun 22ain Medi | Wythnos sefydlu |
Dydd Llun 29ain Medi | Ymarferion wythnos un |
Dydd Llun 6ed Hydref | Ymarferion wythnos dau |
Dydd Llun 13eg Hydref | Ymarferion wythnos tri |
Dydd Llun 20fed Hydref | Ymarferion wythnos pedwar |
Dydd Llun 27ain Hydref | Arsylwi’r ymarfer technoleg |
Dydd Llun 3ydd Tachwedd | Arsylwi’r ymarfer gwisgoedd / sioe ymlaen llaw |
Dydd Gwener 7fed Tachwedd | Mynychu noson y wasg |
Cinderella The Rock n Roll Panto
gan Christian Patterson, wedi'i gyfarwyddo gan Daniel Lloyd
Mae panto hynod lwyddiannus Theatr Clwyd yn dychwelyd gyda cherddoriaeth fyw a'r caneuon roc, pop a soul mwyaf poblogaidd!
Mae rhagor o wybodaeth am y cynhyrchiad ar gael yn https://www.theatrclwyd.com/ev...
Daniel Lloyd
Mae Daniel yn Gyfarwyddwr, Actor-Cerddor a Chyfansoddwr Caneuon eithriadol lwyddiannus a chafodd ei fagu yn Rhosllannerchrugog, Wrecsam.
Mae’n Gyfarwyddwr Cyswllt llawn amser yn Theatr Clwyd ac yn Gyswllt Creadigol i'r cwmni Theatr na n’Og sydd wedi'i leoli yng Nghastell-nedd. Hyfforddodd Dan yn East 15 ac mae ganddo fwy nag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio ym myd y Theatr, Ffilm, Teledu a Radio. Mae'n angerddol am hyrwyddo diwylliant Cymru, ei hiaith, ei cherddoriaeth a'i harwyr a'i straeon tawel.
Mae campau cyfarwyddo Dan yn cynnwys: Hafan, Cinderella, Constellations/Cytserau, Sleeping Beauty, Truth or Dare, Mother Goose – i gyd ar gyfer Theatr Clwyd. Wrecslam!, Rwan Nawr a HaHa (cydgynyrchiadau ysgrifennu newydd rhwng Theatr Clwyd/Theatr Cymru) Rownd a Rownd (S4C), Miss Wales (yn cael ei ddatblygu yn Theatr Clwyd) Without You - The Badfinger Musical, The White Feather, Arandora Star, Abertawe’n Fflam, The Butterfly Hunter, Far From The Madding Crowd (Theatr na n’Og), Toxic Whispers a Cloudbusting (cyllid gan CCC) a dau banto Shane Williams llwyddiannus yn llawn sêr i'r darlledwr Cymraeg S4C.
Mae rhagor o wybodaeth am Dan ar gael yn https://theatr-nanog.co.uk/dan...
Dates
Dydd Llun 22ain Medi | Dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau ar gyfer CINDERELLA |
Dydd Iau 25ain | Gwahodd y 4 ymgeisydd ar y rhestr fer i gyfweliad ar-lein |
Dydd Llun 29ain Medi | Cyfweliad gyda’r 4 ymgeisydd ar y rhestr fer |
Dydd Mercher 1af Hydref | Hysbysu'r ymgeisydd llwyddiannus |
Dydd Llun 13eg Hydref | Wythnos sefydlu |
Dydd Llun 20fed Hydref | Ymarferion wythnos un |
Dydd Llun 27ain Hydref | Ymarferion wythnos dau |
Dydd Llun 3ydd Tachwedd | Ymarferion wythnos tri |
Dydd Llun 10fed Tachwedd | Ymarferion wythnos pedwar |
Dydd Llun 17eg Tachwedd | Arsylwi’r ymarfer technoleg |
Dydd Sadwrn 22ain neu ddydd Llun 24ain Tachwedd | Arsylwi’r ymarfer gwisgoedd / sioe ymlaen llaw |
Dydd Iau 27ain Tachwedd | Mynychu noson y wasg |