Theatr Clwyd yn penodi Cath Sewell fel Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd
See dates and times 15 Tach 2023
News Story

Mae Theatr Clwyd wedi cyhoeddi mai ei Chyfarwyddwr newydd ar gyfer Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd fydd Cath Sewell. Mae gan Cath brofiad helaeth o weithio ar draws y sector addysg cerddoriaeth, gan ddatblygu a chyflwyno rhaglenni mewn lleoliadau, ysgolion a chymunedau. Mae Cath wedi gweithio yng Ngwasanaeth Cerddoriaeth Swydd Gaerhirfryn, Canolfan Celfyddydau'r Brewery yn Kendal, Drake Music Scotland a Neuadd Wigmore, Llundain.
0 Stars
Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi cael y cyfle i arwain datblygiad cerddoriaeth yn Theatr Clwyd ac ar draws Sir y Fflint. Maeโr gwasanaeth cerddoriaeth sydd wediโi leoli o fewn lleoliad celfyddydau creadigol yn agor cymaint o bosibiliadau ar gyfer partneriaeth a chydweithredu. Mae ailddatblygu'r adeilad yn hynod gyffrous, a gobeithio y bydd y lleoliad yn dod yn hwb ar gyfer creu cerddoriaeth. Rydw iโn edrych ymlaen at barhau i ddatblygu rhaglen gynhwysol syโn galluogi pawb i gael mynediad i gyfleoedd cerddorol perthnasol ac o ansawdd uchel.Am ei phenodiad, dywedodd Cath Sewell.
0 Stars
Yn ystod y broses recriwtio ar gyfer swydd y cyfarwyddwr, fe wnaeth Cath, ei phrofiad, ei gweledigaeth, aโi hangerdd dros addysg cerddoriaeth argraff fawr iawn arnom ni. Mae ein darpariaeth cerddoriaeth yn rhan bwysig oโn gwaith ni yn Theatr Clwyd, ac rydyn niโn edrych ymlaen at fanteisio iโr eithaf ar y cyfleoedd syโn cael eu cynnig drwy fod yr unig theatr gynhyrchu yn y DU sydd hefyd yn gweithredu gwasanaeth cerddoriaeth llawn, ac yn bersonol rydw iโn gyffrous i weld yr holl bethau fydd Cath yn eu cyflawni yn y rรดl arwain yma.Dywedodd Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd a Chadeirydd Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd.
Mae'r sefydliad yn addysgu mwy na 3500 o bobl ifanc bob wythnos. Gan weithio mewn dros 70 o ysgolion, maeโn cynnig gwersi mewn offerynnau yn amrywio oโr delyn Gymreig i ddrymiau, a phopeth yn y canol. Maeโr rhaglen Profiad Cyntaf, syโn cynnig isafswm o ddau dymor o sesiynau cerddoriaeth dosbarth llawn i bob plentyn ysgol gynradd, yn rhan oโu darpariaeth yn erbyn y Cynllun Cerddoriaeth Cenedlaethol newydd gan Lywodraeth Cymru.
Yn ogystal รข chyflwyno yn yr ysgolion, mae ar hyn o bryd yn gweithredu saith ensemble ieuenctid ac yn darparu tua 100 o wersi preifat i gymunedau o unrhyw oedran y tu allan i leoliadau addysgol. Ar hyn o bryd mae'r Ymddiriedolaeth yn cyflogi 36 o gerddorion i gyflwyno addysg gerddorol ar draws Sir y Fflint, gyda chefnogaeth 110 aelod arall oโr tรฎm o fewn cwmni ehangach Theatr Clwyd.
I gael gwybod mwy am Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd cliciwch yma