News Story

Yn ddiweddarach y flwyddyn yma yma cyhoeddodd Theatr Clwyd ei bod yn cynhyrchu premiere byd drama gomedi arobryn Phoebe Waller-Bridge, Fleabag, a fydd yn cael ei haddasu iโr Gymraeg.
Ysgrifennwyd a pherfformiwyd y sioe yn wreiddiol gan Phoebe Waller-Bridge yng Ngลตyl Fringe Caeredin. Wedyn addaswyd y sioe yn gyfres deledu ar y BBC a enillodd wobrau BAFTA, Emmy a Golden Globe.
Mae cynhyrchiad Theatr Clwyd o Fleabag wedi cael ei addasu gan yr awdur arobryn o Gymru, Branwen Davies (Dirty Protest ac Os Nad Nawr). Maeโr sioe wediโi hadleoli yng ngogledd Cymru, ac maeโr Gymraeg yn dod รข haen newydd o ystyr a dehongliad syโn unigryw iโr cynhyrchiad yma. Yn perfformio bydd Leah Gaffey (A Midsummer Nightโs Dream, Theatr y Sherman), gyda Sara Lloyd (Nyrsys, Theatr Genedlaethol Cymru) cyfarwyddoโr cynhyrchiad newydd cyffrous hon.
Wrth iโr ymarferion ddechrau ar gyfer y gomedi un fenyw ddrygionus yma, mae Theatr Clwyd wedi cyhoeddi heddiw y bydd y sioe yn teithio ledled Cymru cyn ei pherfformiad olaf yn y lleoliad. Bydd y perfformiad agoriadol yn cael ei chynnal yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Llลทn ac Eifionydd (8-10 Awst). Bydd wedyn yn teithio i The Stiwt, Wrexham (16 Awst), Celleb, Blaenau Ffestiniog (17 Awst), Galeri, Caernardon (18 Awst), Theatr y Torch, Sir Benfro (29 Awst), Theatr Soar, Merthyr Tudful (30 Awst), Ucheldre Centre, Holyhead Anglesey (1 Medi), Canolfan Gelfyddydol Neuadd Dwyfor, Pwllheli (2 Medi), Theatr y Sherman Caerdydd (5-8 Medi), Theatr Mwldan, Aberteifi (12 Medi), Pontio Bangor (15-16 Medi), Theatr Brycheiniog, Aberhonddu (20 Medi), Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (22-23 Medi) a bydd y daith yn dod i ben yn Theatr Clwyd (27-30 Medi).
Maeโr sioe fudr, ddoniol, heb ffilter ymaโn dilyn siwrnai ddi-drefn Cymraes tuag at fod รข dim iโw golli. Efallai ei bod hi'n ymddangos yn or-rywiol, yn emosiynol amrwd ac yn hunanobsesiynol, ond dim ond y dechrau ydi hynny. Gyda pherthnasoedd dan straen a chaffi mewn trafferthion, mae hi ar y dibyn heb unrhyw le i fynd yn รดl pob tebyg.
0 Stars
Mae Fleabag yn un o sioeau unigol gorauโr 10 mlynedd diwethaf โ mae ganddi lais nodedig a hiwmor prin. Maeโn sioe rydyn ni wedi bod yn ei datblygu dros y 2 flynedd ddiwethaf, a gobeithio y byddwn yn cyflwyno fersiwn Cymraeg o sioe syโn llwyddiant ysgubol i gynulleidfaoedd. Maeโr Fleabag Cymraeg yn dod รข haenau newydd o ystyr a dehongliad a fydd yn unigryw iโn cynhyrchiad ni ond yn driw hefyd iโr gwreiddiol. Rydym yn hynod ddiolchgar bod Phoebe wedi caniatรกu i ni fynd รขโi stori aโi hadrodd oโr newydd yn yr iaith Gymraeg โ am fraint, ac am dรฎm gwych o dรฎm creadigol o ferched sydd gennym i wneud hynny!Dywedodd Liam Evans-Ford am y cynhyrchiad.
Bydd Fleabag yn cael ei pherfformio yn Theatr Clwyd ar 27-30 Medi. Tocynnau o ยฃ10 aโr oedran a argymhellir ydi 16+. Archebwch Nawr.
Dyddiadauโr Daith
Eisteddfod Genedlaethol, Llลทn ac Eifionydd
Dydd Mawrth 8 โ Dydd Iau 10 Awst
Archebwch Nawr
Stiwt, Wrexham
Dydd Mercher 16 Awst
Archebwch Nawr / 01978 841300
Celleb, Blaenau Ffestiniog
Dydd Iau 17 Awst
Archebwch Nawr / 01766 832001
Galeri, Caernarfon
Dydd Gwener 18 Awst
Archebwch Nawr / 01286 685222
Theatr y Torch, Sir Benfro
Dydd Mawrth 29 Awst
Archebwch Nawr / 01646 695267
Theatr Soar, Merthyr Tudful
Dydd Mercher 30 Awst
Archebwch Nawr / 01685 722176
Canolfan Gelfyddydol Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Dydd Sadwrn 2 Medi
Archebwch Nawr / 01758 704088
Ucheldre Centre, Holyhead Anglesey
Dydd Gwener 1 Medi
Archebwch Nawr / 01407 763361
Sherman Theatre, Cardiff
Dydd Mawrth 5 - Dydd Gwener 8 Medi
Archebwch Nawr / 029 2064 6900
Theatr Mwldan, Aberteifi
Dydd Mawrth 12 Medi
Archebwch Nawr / 01239 621200
Pontio Bangor
Dydd Gwener 15 โ Dydd Sawdwrn 16 Medi
Archebwch Nawr / 01248 382828
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
Dydd Mercher 20 Med
Archebwch Nawr / 01874 611622
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Dydd Gwener 22 โ Dydd Sadwrn 23 Medi
Archebwch Nawr / 01970 623232