Fleabag

Past Production

See dates and times  

Mae’r sioe fudr, ddoniol, heb ffilter yma’n dilyn siwrnai ddi-drefn Cymraes tuag at fod â dim i’w golli.


Efallai ei bod hi'n ymddangos yn or-rywiol, yn emosiynol amrwd ac yn hunanobsesiynol, ond dim ond y dechrau ydi hynny. Gyda pherthnasoedd dan straen a chaffi mewn trafferthion, mae hi ar y dibyn heb unrhyw le i fynd yn ôl pob tebyg.


Addasiad Cymraeg newydd o'r sioe boblogaidd!

Ysgrifennwyd a pherfformiwyd Fleabag yn wreiddiol gan Phoebe Waller-Bridge yng Ngŵyl Fringe Caeredin. Wedyn addaswyd y sioe yn gyfres deledu ar y BBC a enillodd wobrau BAFTA, Emmy a Golden Globe.

Mae’r addasiad Cymraeg yma gan Branwen Davies yn cael ei berfformio gan yr actores lwyddiannus o Gymru, Leah Gaffey.

Theatr Clwyd


Cast a Pobl Greadigol