Mae ein Bwrdd Ieuenctid deinamig yn chwilio am aelodau newydd!
See dates and times 16 Mai 2025
News Story

Ydych chi'n teimlo'n gyffrous am y posibilrwydd o ddylanwadu ar y celfyddydau yn eich ardal leol a rhannu barn eich cenhedlaeth gyda ni?
Ydych chi eisiau dysgu a datblygu gyrfa yn y celfyddydau ochr yn ochr â phobl debyg i chi?
Os felly, gallai hwn fod y cyfle perffaith i chi a byddem yn eich annog i gysylltu!
Does dim rhaid i chi gael profiad blaenorol o fod ar Fwrdd.
Am Theatr Clwyd:
Adeiladwyd Theatr Clwyd yn 1976 i ddarparu cyfleoedd diwylliannol i bobl sy'n byw yng Ngogledd Cymru. Dyma theatr gynhyrchu fwyaf Cymru a'n nod ni yw gwneud y byd yn lle hapusach un ennyd ar y tro.
Am Youth Advisory Board:
Mae ein Bwrdd Ieuenctid ni’n cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn ac mae'n gyfrifol am roi sylw i faterion sydd o bwys i bobl ifanc er mwyn sicrhau bod ein rhaglen o sioeau, digwyddiadau, cerddoriaeth ac ymgysylltu creadigol yn Theatr Clwyd yn berthnasol iddyn nhw.
Mae'r Bwrdd Ieuenctid hefyd yn gweithio gydag Uwch Dîm Arwain a Bwrdd Ymddiriedolwyr Theatr Clwyd i graffu, cefnogi a mireinio strategaeth gyffredinol y cwmni a'i ddatblygiad yn y dyfodol.
Efallai y bydd cyfleoedd hefyd i chi fynychu cynadleddau’r diwydiant ac ymgymryd â hyfforddiant i gefnogi eich datblygiad proffesiynol - a hefyd cewch ddod i weld ein sioeau ni a mynychu digwyddiadau Theatr Clwyd!
Rydyn ni’n croesawu aelodau Bwrdd sydd â meysydd penodol o ddiddordeb, ac efallai y bydd cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn meysydd penodol o waith y Theatr, fel marchnata, datblygu'r iaith Gymraeg, ymgysylltu creadigol, cerddoriaeth a chynhyrchu.
Mae croeso i unrhyw un wneud cais, ond mae'r bwrdd hefyd yn awyddus i chwilio am gynrychiolaeth wrywaidd ar y Bwrdd Ieuenctid.
Beth i'w ddisgwyl:
- Mae Aelodau ein Bwrdd yn chwarae rhan allweddol wrth eiriol dros Theatr Clwyd a'i hyrwyddo.
- Rydym yn gofyn am ymrwymiad o 8 awr (4 cyfarfod 2 awr) y flwyddyn o leiaf. (Gweddill y flwyddyn - dydd Mercher 23ain Gorffennaf 2025, dydd Mercher 22ain Hydref 2025).
- Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb yn gyffredinol yn Theatr Clwyd, Lôn Raikes, yr Wyddgrug neu ar-lein.
- Mynychu digwyddiadau a chynyrchiadau Theatr Clwyd.
- Does dim tâl am fod yn aelod o’r Bwrdd Ieuenctid ond byddwn yn rhoi ad-daliad i chi am gostau teithio i gyfarfodydd.
Sut i wneud cais:
I wneud cais i ddod yn aelod o'n Bwrdd Ieuenctid, anfonwch ddatganiad byr atom ni amdanoch chi'ch hun a pham rydych chi eisiau bod yn aelod o'n Bwrdd Ieuenctid.
- Gallwch argraffu eich datganiad ar un ochr papur A4
- neu greu fideo / ffeil sain 3 munud
Os ydych chi'n cyflwyno fideo, dim ond dolen allwn ni ei derbyn, felly ewch ati i’w uwchlwytho i One Drive, YouTube, Vimeo neu debyg.
Rhaid i ffeiliau sain fod yn mp3.
Efallai y byddwch chi eisiau ystyried rhai o'r cwestiynau isod wrth ysgrifennu eich datganiad:
- Beth mae'r celfyddydau (a Theatr Clwyd) yn ei olygu i chi?
- Pam hoffech chi fod yn aelod o’r Bwrdd Ieuenctid?
- Oes gennych chi unrhyw sgiliau, profiad neu wybodaeth benodol yr hoffech chi rannu manylion amdanynt gyda ni?
- Dywedwch wrthym ni am ddarn o theatr, dawns, cerddoriaeth neu waith celf wnaeth greu argraff arnoch chi ac sydd wedi cael effaith barhaol arnoch chi.
Mae Theatr Clwyd wedi ymrwymo i fod yn lleoliad amrywiol a hygyrch ac mae'n croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol a heb gynrychiolaeth ddigonol.
Anfonwch eich datganiad, fideo neu ffeil sain i people@theatrclwyd.com