Cyfle am Swydd: Goruchwylydd Gwisgoedd Llawrydd – Cinderella
See dates and times 15 Mai 2025
News Story

Cefndir:
Mae Theatr Clwyd yn chwilio am Oruchwylydd Gwisgoedd Llawrydd talentog a threfnus i ymuno â'r tîm ar gyfer ein cynhyrchiad pantomeim ni yn 2025, Cinderella, sydd wedi’i ysgrifennu gan Christian Patterson. Bydd y cynhyrchiad yn cael ei gyfarwyddo gan Daniel Lloyd gyda chynllun y set a'r gwisgoedd gan Adrian Gee. Bydd y cynhyrchiad yn cael ei lwyfannu yn Theatr Moondance, ein theatr 550 sedd ni sydd wedi'i huwchraddio a'i hadnewyddu yn ein cartref ni yng Ngogledd Cymru, yn dilyn prosiect ailddatblygu cyfalaf gwerth miliynau o bunnoedd.
Mae hwn yn gyfle gwych i arwain goruchwyliaeth gwisgoedd y pantomeim actor-gerddorion bywiog yma gan weithio gyda'n tîm Gwisgoedd a WHAM mewnol ymroddedig sydd ag enw rhagorol am gyflwyno Pantomeimiau arobryn.
Er ein bod yn ymwybodol o arferion cynaliadwy a chanllawiau Llyfr Gwyrdd y Theatr, bydd y cynhyrchiad yma’n cynnwys llawer iawn o greu gwisgoedd newydd, ac rydym yn chwilio am rywun sy'n hyderus yn rheoli proses greu drom.
Am Theatr Clwyd:
Theatr Clwyd yw theatr gynhyrchu fwyaf Cymru, a'n nod ni yw gwneud y byd yn lle hapusach un ennyd ar y tro. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy hudo pobl gyda straeon ar ein llwyfannau ni a thrwy roi'r gymuned wrth galon ein gwaith.
Adeiladwyd Theatr Clwyd yn 1976 i ddarparu cyfleoedd diwylliannol i’r bobl yn byw yng Ngogledd Cymru. Mae sêr mawr wedi camu ar ein llwyfannau ni, gan gynnwys Anthony Hopkins, Vanessa Redgrave, Timothy Dalton ac Owen Teale ymhlith eraill, ac yn 2018 roedden ni’n falch o ennill Gwobr Olivier am Home, I'm Darling gyda Katherine Parkinson a Richard Harrington yn serennu.
Rydyn ni bellach yn cael ein harwain gan y Cyfarwyddwr Artistig, Kate Wasserberg a'r Cyfarwyddwr Gweithredol, Liam Evans-Ford ac yn cyflawni llawer iawn o waith yn ein hadeilad i gefnogi pobl sy'n byw yn ein cymunedau ni. Rydyn ni’n gweithio gyda'n bwrdd iechyd lleol ac elusennau iechyd i ddefnyddio'r celfyddydau i gefnogi iechyd meddyliol a chorfforol pobl a datblygu prosiectau pwrpasol sy'n cefnogi rhai o'r bobl sydd fwyaf ar y cyrion yn ein cymunedau ni.
Manylion Allweddol:
- Ffi'r Contract: £7,500 (Costau teithio a threuliau ychwanegol i'w trafod a'u talu yn ôl yr angen)
- Cyllideb Gwisgoedd: Tua. £16,000 (Nid yw'n cynnwys costau’r tîm gwisgoedd mewnol; bydd yn cynnwys gwneuthurwyr llawrydd a deunyddiau)
- Maint y Cast: 10 perfformiwr (actor-gerddorion, gyda rhywfaint o ddyblu ac edrychiadau ychwanegol)
Amserlen ac Ymrwymiad:
- Cyflwyno’r Cynllun Terfynol: Dydd Iau 12fed Mehefin 2025
- Cyfnod Paratoi (siopa / gwneuthurwyr / ffitio): Gorffennaf - Hydref 2025 (dyddiadau i'w cadarnhau)
- Ffitiadau cynnar posibl: Medi / Hydref (i'w cadarnhau)
- Ymarferion yn dechrau: Dydd Llun 20fed Hydref yn Theatr Clwyd, Gogledd Cymru
- Ymarferion Technegol a Sioeau Ymlaen Llaw: Dydd Llun 17eg – Dydd Iau 27ain Tachwedd (disgwylir argaeledd llawn amser)
- Sioe Ymlaen Llaw Gyntaf: Dydd Sadwrn 22ain Tachwedd
- Noson Agoriadol: Dydd Iau 27ain Tachwedd
Byddwch yn gweithio'n agos gyda'n tîm creadigol ni, y tîm gwisgoedd mewnol ac unrhyw wneuthurwyr llawrydd i gyflwyno elfennau gwisgoedd y sioe i safon uchel ac o fewn y gyllideb. Mae'r gallu i reoli eich amserlen eich hun cyn ymarferion, cadw cofnodion clir, cysylltu â gwneuthurwyr, a goruchwylio’r ffitio a’r cyflawni yn allweddol.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu bodloni’r canlynol:
- Profiad o oruchwylio gwisgoedd ar gyfer theatr, yn ddelfrydol mewn cyd-destunau cerddorol neu actor-gerddorion
- Cyfforddus yn goruchwylio cyllideb a rheoli gwneuthurwyr llawrydd
- Dull cydweithredol a rhagweithiol o weithio o ran gwaith cynhyrchu
- Ar gael ar gyfer y dyddiadau allweddol a amlinellir, gyda rhywfaint o hyblygrwydd ar gyfer paratoi a ffitio
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfrannu eich sgiliau at bantomeim cyflym ac o ansawdd uchel, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
I wneud cais neu i gael gwybod mwy, anfonwch CV a darn byr yn mynegi diddordeb at Hannah Lobb, Pennaeth Cynhyrchu (Hannah.lobb@theatrclwyd.com) erbyn dydd Llun 2 Mehefin 2025.